Cyhoeddi enillwyr gwobrau'r Coleg Cymraeg sy’n cydnabod gwaith rhagorol myfyrwyr a darlithwyr
August 09, 2023
Yn ystod derbyniad blynyddol y Coleg, cyflwynir Gwobr Goffa Dr John Davies i Annell Dyfri o Brifysgol Caerdydd am gyflawni'r traethawd estynedig gorau yn y Gymraeg ar Hanes Cymru. Teitl ei thraethawd oedd ‘Degawd o drawsnewid (2010-2020) S4C: o’r llwyfan llinol i’r llwyfan digidol ac effaith hyn ar y Gymraeg’.
Meddai Annell, sydd bellach yn gweithio fel Newyddiadurwraig gyda BBC Cymru ar ôl astudiorhaglen M.A. mewn Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg am y wobr yma. Wnes i wir fwynhau ysgrifennu fy nhraethawd am y modd y mae darlledu cyfrwng Cymraeg wedi gorfod ymateb i‘r chwyldro digidol gan symud o’r llwyfan llinol i anwesu’r cyfleoedd newydd hyn. Mae’r effaith wedi bod yn gadarnhaol ar ddarlledu cyfrwng Cymraeg gyda chynulleidfaoedd ledled y byd bellach yn gallu mwynhau darpariaeth S4C yn ddigidol.
“Mae’r ymchwil wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn fy ngwaith presennol fel newyddiadurwraig cyfrwng Cymraeg. Hoffwn ddiolch yn fawr i’m tiwtor, yr Athro Diarmait Mac Giolla Chriost, am ei gefnogaeth ac i’r Coleg Cymraeg am yr holl gyfleoedd dw i wedi eu derbyn fel myfyriwr a fel llysgennad. Mae ennill Gwobr Goffa Dr John Davies yn ddiweddglo arbennig i fy astudiaethau ac yn hwb aruthrol wrth i mi ddechrau ar fy ngyrfa.”
Enillydd Gwobr Norah Isaac eleni yw Elin Bartlett sy’n astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r wobr yn gwobrwyo’r canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.
Mae Elin yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau iaith er mwyn cyfathrebu yn effeithiol yn ddwyieithog gyda’i chleifion. Meddai:
“Mae ennill y wobr yma yn golygu llawer i mi. Nid yn unig mae’n gydnabyddiaeth o fy ngwaith a fydd yn codi calon ac yn rhoi hwb ymlaen wrth i mi barhau gyda fy astudiaethau, ond mae’r dystysgrif yn rhoi tystiolaeth o lefel sgiliau iaith a’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn effeithiol yn y gweithle sy’n bwysig iawn yn y maes Meddygaeth.”
Enillydd Gwobr Gwerddon eleni yw Dr Geraint Palmer, darlithydd yn yr Ysgol Fathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Gwobr Gwerddon yn gwobrwyo’r erthygl orau a gyhoeddwyd ar e-gyfnodolyn academaidd, Gwerddon, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.