Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

April 07, 2025

Mae rhaglen sy’n cynnig cyfle i raddedigion sydd â’u bryd ar weithio yn y sector morol yng ngogledd Cymru i gael profiad ymarferol yn y maes. Mae’r Rhaglen Interniaethau Dyfodol Morol Gogledd Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gyda’r bwriad o ddarparu sgiliau a phrofiad mewn cadwraeth forol, ynni adnewyddadwy, a datblygu polisi i ymgeiswyr.

Wedi'i reoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, mae’r cynllun yn bartneriaeth rhwng Menter Môn Morlais Cyf, M-SParc, a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cael ei ariannu gan Ystâd y Goron. Fel rhan o'r rhaglen, bydd pob partner yn cynnig hyfforddiant a chyfle i weithio yn eu meysydd arbenigol nhw, sy’n cynnwys ynni llanw ac ymchwil morol ym Menter Môn Morlais.

Fiona Parry yw Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant Menter Môn Morlais, roedd hi'n awyddus i hyrwyddo’r cyfle ac annog pobl lleol i wneud cais. Dywedodd: “Dyma gyfle gwych i berson ifanc ymuno â'n tîm ac i gael profiad a datblygu sgiliau gwerthfawr i'r sector ynni adnewyddadwy.”

“Fel sefydliad rydyn ni bob amser wedi bod yn awyddus i ddenu talent lleol a chreu cyfleoedd i bobl weithio mewn swyddi o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cymryd rhan yn y rhaglen hon gyda'n partneriaid yn caniatáu i ni wneud yn union hynny. Efo’r dyddiad cau yn prysur agosáu, byddwn yn annog unrhyw raddedigion diweddar neu'r rhai sydd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol i gysylltu ac i wneud cais am y ddwy rôl yma."

Dyma'r ail flwyddyn i Menter Môn Morlais fod yn rhan o Interniaethau Dyfodol Morol. Y llynedd ymunodd dau o raddedigion â thîm ynni Menter Môn fel rhan o'r cynllun. Mae'r ddau wedi parhau i adeiladu ar eu profiad, gan gymryd camau tuag at yrfaoedd yn y sector. Mae eu datblygiad yn adlewyrchu rôl a bwriad y rhaglen wrth ddatblygu talent leol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Ebrill ac mae mwy o wybodaeth a manylion ceisiadau ar gael ar wefan NWWF.

More

SEE ALL

Delyth Evans yw Cadeirydd newydd S4C

Owen Davies ac Emily Rees yn ymuno â Bwrdd Mentera

Anna Bowen i arwain Rhaglen Hŷn 2025

  • All6408
  • News
    5976
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1653
  • Arts
    1468
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    522
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3