Cyfansoddwr cerddoriaeth Gymraeg ar restr fer gwobr gerddoriaeth y DU

October 01, 2024

Mae prosiect cerddorol iaith Gymraeg newydd, Popeth, wedi’i enwebu yng Ngwobrau Cymdeithas Cerddoriaeth Annibynnol (AIM) 2024.

Mae Popeth, sef prosiect pop arbrofol Ynyr Gruffudd Roberts, wedi rhyddhau tair sengl eleni, yn gweithio gydag artist gwahanol ar bob trac gan gynnwys Tesni Jones (‘Rhywun yn Rhywle’), Leusa Rhys (‘Dal y Gannwyll’) a Tara Bandito a Gai Toms, ar ei sengl ddiweddaraf, ‘Zodiacs’. 

Yn rhannu’r rhestr fer gyda rhai o artistiaid fwyaf blaenllaw y DU heddiw, gan gynnwys Barry Can’t Swim (Ninja Tune), Coach Party (Chess Club Records) a hefyd project Kelly Jones (Stereophonics), Far From Saints (Ignition Records), bydd seremoni Gwobrau AIM 2024 yn cael ei chynnal yn y Roundhouse yn Llundain ar ddydd Iau 17eg Hydref. 

Ychwanega Ywain Gwynedd, sylfaenydd Recordiau Côsh: “Mae Popeth yn artist sy’n cynhyrchu alawon pop bachog. Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ganu a serennu ar y traciau, gan ddefnyddio’r gân fel sylfaen i ddechrau gyrfa eu hunain fel artistiaid unigol. Mae’r ethos hwn o gydweithio, a rhoi cyfle i artistiaid eraill i leisio’r caneuon, wedi gwneud Popeth yn artist difyr i’w dilyn - rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa!”