Cydweithio'n cryfhau rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

August 02, 2023

Mwy o gyfleodd i fwynhau’r Gymraeg, wrth i’r Cydweithio gryfhau rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Bydd Memorandwm Dealltwriaeth rhwng Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn adeiladu ar y bartneriaeth sydd eisoes yn bodoli rhwng y ddau sefydliad, wrth iddyn nhw gefnogi polisi Cymraeg 2050 y Llywodraeth.

Mae’r sefydliadau yn barod yn cydweithio ar brosiectau megis ‘Clwb Cwtsh’ sy’n cynnig cyfleoedd anffurfiol i rieni a gofalwyr plant bach i ddechrau dysgu Cymraeg, a chynllun ‘Camau’, sy’n rhoi hyfforddiant dysgu Cymraeg i ymarferwyr blynyddoedd cynnar.

Bydd y Memorandwm newydd yn ffurfioli’r cydweithio, gan greu cyfleoedd pellach i gaffael a throsglwyddo’r Gymraeg, ac i gefnogi plant, teuluoedd a gofalwyr i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg.

Bydd cyfathrebu effeithiol yn chwarae rôl bwysig, gyda chyfarfodydd a diweddariadau rheolaidd er mwyn rhannu profiadau ac arbenigedd a datblygu syniadau i ddenu cynulleidfaoedd newydd at y Gymraeg.

Bydd ymgynghori ar y cyd â’r cyhoedd, er mwyn adnabod yr anghenion dysgu Cymraeg.  Bydd y ddau sefydliad hefyd yn cydweithio ar ymgyrchoedd, er mwyn manteisio ar eu rhwydweithiau gwahanol.

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin: 

“Mae Mudiad Meithrin a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn rhannu’r un ymrwymiad i gynnig cyfleoedd i ddysgu, defnyddio, a mwynhau’r Gymraeg.  

“Trwy ffurfioli’r bartneriaeth rhyngom, gallwn gefnogi llwybr iaith ‘o’r crud i’r bedd’, gan gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.”

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: 

“Mae creu partneriaethau grymus yn rhan bwysig o rôl y Ganolfan, wrth i ni sicrhau cyfleoedd i bobl ddysgu a defnyddio’r Gymraeg gyda’u teuluoedd, yn eu cymunedau, ac yn y gwaith.

“Mae’r Memorandwm Dealltwriaeth yma yn adeiladu ar y cydweithio llwyddiannus sydd eisoes wedi digwydd rhwng y Ganolfan a’r Mudiad, ac edrychwn ymlaen at gefnogi’n gilydd fwyfwy er mwyn hwyluso taith iaith pob unigolyn yng Nghymru.”

Cyhelir sgwrs gyhoeddus i drafod y cydweithio gyda Gwenllïan Lansdown Davies a Dona Lewis, am 3.00pm Dydd Llun, 7 Awst, ym Mhabell y ‘Big Top’, Maes D, ar faes Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3