Cronfa Ynni Glân yn cael y golau gwyrdd gan Uchelgais Gogledd Cymru

June 12, 2025

Bydd Gogledd Cymru yn adeiladu ar ei chryfder fel arweinydd ym maes ynni carbon isel, wedi i'r achos busnes llawn  ar gyfer Cronfa Ynni Glân y rhanbarth, sy’n werth £24.6 miliwn gael ei gymeradwyo’n ddiweddar.

Bydd y gronfa, sy'n rhan o raglen Ynni Carbon Isel Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn cynnig arian dyled gyfalaf yn bennaf i brosiectau'r sector preifat gyda chyllid cyfalaf grant/dyled ar gael i brosiectau'r sector gwirfoddol sy'n canolbwyntio ar ynni glân. Bydd gan y gronfa yr hyblygrwydd i ystyried buddsoddiadau mewn sectorau eraill a thrwy fecanweithiau cyllido eraill lle mae prosiectau'n cyd-fynd yn glir ag amcanion y gronfa. Disgwylir y bydd y gronfa yn cynhyrchu £100 miliwn mewn buddsoddiad rhanbarthol, yn creu dros 150 o swyddi newydd, yn lleihau cyfwerth â charbon deuocsid hyd at 125,000 tunnell ac yn cefnogi perchnogaeth leol.

Bydd y buddsoddiad yn cefnogi ystod o dechnolegau a gweithgareddau, gan gynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy, prosiectau effeithlonrwydd ynni ac ôl-ffitio, systemau ynni clyfar, a gweithgynhyrchu ynni glân.

Dywedodd y Cyng Gary Pritchard, Arweinydd, Cyngor Sir Ynys Môn a'r Aelod Arweiniol ar gyfer Rhaglen Ynni Carbon Isel Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn yn gam mawr ymlaen i'n rhaglen Ynni Carbon Isel. Mae'r Gronfa Ynni Glân wedi'i chynllunio i ymateb i anghenion ein rhanbarth, gan ddarparu'r gefnogaeth gywir i sefydliadau sydd eisiau ysgogi arloesedd a helpu i gyflawni ein nodau hinsawdd.

"Rydym yn falch o gymryd dull cydweithredol, gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo cyfleoedd newydd a sicrhau y gall ein cymunedau elwa o'r trawsnewidiad i economi sero net."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae cymeradwyo'r Gronfa Ynni Glân yn newyddion gwych i Ogledd Cymru, gan agor y drws i fwy o gyfleoedd ar gyfer sector ynni glân ffyniannus y rhanbarth. Gyda'i hadnoddau naturiol toreithiog, ei gweithlu medrus, a'i ymrwymiad i gynaliadwyedd, mae Gogledd Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd o ran harneisio ynni adnewyddadwy. Edrychaf ymlaen at weld datblygiadau arloesol a fydd yn sbarduno twf economaidd wrth hyrwyddo ein trawsnewidiad i ddyfodol mwy gwyrdd."

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith:

"Mae'r golau gwyrdd i'r Gronfa Ynni Glân yn newyddion gwych i Ogledd Cymru. Wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU, trwy Gynllun Twf Gogledd Cymru, mi fydd yn pweru twf economaidd ac yn creu swyddi newydd a fydd yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld prosiectau arloesol yn dod ymlaen i gael cefnogaeth, gan atgyfnerthu enw da cynyddol Gogledd Cymru yn y sector ynni glân a chyfrannu at dwf economaidd a chenadaethau ynni glân Llywodraeth y DU."

Bydd y gronfa, sydd i'w lansio ym mis Gorffennaf, ar agor ar gyfer ceisiadau dros gyfnod cychwynnol o bum mlynedd, gyda'r potensial i ymestyn i 2035 yn dibynnu ar ddefnydd a pherfformiad. Rhaid i brosiectau fod ar waith o fewn 36 mis ar ôl derbyn buddsoddiad, a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu cyllid cyfatebol. Trwy ddatgloi buddsoddiad, bydd y gronfa yn cyflymu'r cynnydd tuag at dargedau sero net i Gymru a'r DU.

Penodwyd yr ymgynghorwyr UMi (mewn partneriaeth ag Optimum Elite ac Auditel), ynghyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (sy'n gweithio gydag Ynni Cymunedol Cymru a Mantell Gwynedd), ddiwedd 2024 i helpu i lunio a chyflawni'r gronfa. Gyda'i gilydd, maent yn cyfuno arbenigedd masnachol ochr yn ochr â dealltwriaeth fanwl o'r sector gwirfoddol, a fydd yn sicrhau bod y gronfa'n cael ei dylunio a'i chyflawni yn effeithiol.

Trwy gefnogi arloesedd a seilwaith ynni glân, nod y gronfa yw gwneud Gogledd Cymru yn chwaraewr allweddol yn nhrawsnewidiad ynni'r DU, tra'n darparu manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol parhaol i'r rhanbarth.

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3