Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg
April 11, 2025
Mae £2 filiwn o fuddsoddiad arloesol wedi sbarduno newid parhaol yn economïau Cymraeg ar draws Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Wrth i’r Gronfa Her ARFOR ddod i ben, mae’n gadael gwaddol cadarn o swyddi newydd, busnesau cryfach ac arloesedd, gyda dwsinau o brosiectau’n parhau i dyfu ac ehangu.
Gan gefnogi 30 o brosiectau uchelgeisiol, mae’r gronfa wedi:
- Cefnogi 195 o fentrau newydd a 510 o fentrau presennol
- Creu 139 o ofodau Cymraeg newydd
- Sefydlu 76 o swyddi newydd a diogelu 94 arall
- Datblygu 172 o gynnyrch a gwasanaethau newydd
- Cryfhau 399 o gysylltiadau rhwng yr economi a’r Gymraeg
- Hyrwyddo 196 o negeseuon cadarnhaol am yr iaith
Fe arweiniodd y gronfa at ffurfio a chryfhau partneriaethau strategol rhwng sefydliadau, busnesau a chymunedau – yn aml yn uniongyrchol drwy’r prosiectau a gefnogwyd. Roedd y cydweithio yma’n allweddol i lwyddiant cynlluniau fel rhai GoIawn, Sain a Theatr Genedlaethol Cymru, gan sicrhau effaith barhaol ar draws sawl sector.
O Arbrofi i Effaith Barhaol
Mae’r gronfa wedi caniatáu i brosiectau arbrofol roi cynnig ar atebion lleol a rhanbarthol sydd eisoes yn dangos arwyddion o effaith barhaol – gan gynnwys cefnogaeth i greu swyddi, sefydlu partneriaethau newydd, a lansio apiau ac adnoddau fydd yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y dyfodol.
TeTrim Teas Ltd – wedi creu swyddi parhaol a sefydlu cynllun cynaliadwy yn y sector.
MySparc – ecosystem fusnes ddigidol newydd ar fin lansio, gan gysylltu entrepreneuriaid, buddsoddwyr a myfyrwyr.
Ap ARFer gan Brifysgol Bangor – i’w lansio yn 2025 i gynorthwyo gweithwyr a dysgwyr i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Cymen – wedi adeiladu’r gronfa ddata fwyaf erioed o lais a thestun Cymraeg, gan agor y drws i AI Cymraeg.
Llais y Prosiectau: Effaith Gwirioneddol mewn Cymunedau Cymraeg
Meddai Nico Dafydd, Fflach, wrth egluro effaith y gronfa ar ddyfodol y label:
"Buodd cefnogaeth ARFOR yn hanfodol i ni wrth i ni edrych ar ddyfodol label eiconig Fflach. Rhoddodd y gronfa amser i ni i ail-gychwyn gwaith creiddiol y cwmni sef creu a hyrwyddo cerddoriaeth newydd yn y Gorllewin tra’n ein galluogi i archwilio model newydd, gan gynnig ffordd radical ymlaen i ni fel cwmni cymunedol.
“Mae ein strwythur newydd bellach yn golygu bod dros 350 o aelodau gyda ni, gan sicrhau egni newydd, ond hefyd ein galluogi i roi gwir bwyslais ar lais y gymuned yn ein gwaith.
Mae’r ymyrraeth yn sicrhau dyfodol i’r busnes, sydd yn ei dro yn cynnig cyfleoedd i’r gymuned, i’r diwydiant creadigol, ac i gyd-weithio a mentergarwch."
Meddai Osian Evans, GoIawn, ar effaith Taith Antur Amser:
"Mae prosiect Taith Antur Amser wedi profi bod posib creu rhywbeth sy’n arloesol, creadigol a chŵl drwy gyfrwng y Gymraeg – ac mae’r ymateb gan blant a'u hathrawon wedi bod yn anhygoel."
"Roedd ARFOR yn sbardun – fe wnaethon ni fentro’n fwy, meddwl yn fwy, a chyrraedd ymhellach."
Neges Glir: Mae’r Gymraeg a’r Economi’n Gryfach Gyda’n Gilydd
Eglura Sara Davies, Rheolwr Prosiectau Arloesedd a Thwf Busnes, Cronfa Her ARFOR, Mentera:
"Mae’r gronfa hon wedi gwneud mwy na darparu cyllid – mae wedi sbarduno syniadau newydd, adeiladu rhwydweithiau cryf, a chryfhau sylfeini economaidd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae’n dystiolaeth bod yr iaith a thwf economaidd yn mynd law yn llaw."
Gyda £2,053,629.14 wedi’i fuddsoddi’n llwyddiannus, mae Cronfa Her ARFOR wedi profi bod buddsoddi mewn arloesi ac yn y Gymraeg yn fodel effeithiol i gefnogi cymunedau lleol, hyrwyddo mentergarwch, a diogelu’r iaith ar lefel economaidd a chymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth: cronfaher.cymru
- All6408
-
News
5976
-
Education
2140
-
Leisure
1870
-
Language
1653
-
Arts
1468
-
Environment
1023
-
Politics
932
-
Health
693
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
578
-
Agriculture
522
-
Food
457
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
185
-
Training / Courses
91
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3