Cigydd lleol yn gwella gweithrediadau gyda Smart
September 09, 2024
Mae J A Thomas yn gigydd teuluol traddodiadol wedi’i lleoli yn y dref farchnad ar Ynys Môn ac yn cael ei reded gan y partneriaid, David Roberts a Christopher Taylor. Maen nhw’n darparu cig lleol Cymreig i’r cyhoedd a llawer o gaffis a bwytai’r ynys.
Yn ddiweddar, derbyniodd y busnes grant gan Hwb Menter trwy Menter Môn, gyda’r nod o wneud y mwyaf o dechnoleg i wella perfformiad y busnes. Mae’r Hwb Menter yn cefnogi busnesau i dyfu ac yn rhoi arweiniad i entrepreneuriaid i roi syniadau newydd ar waith yn llwyddiannus. Bu David a Christopher yn gweithio’n agos gydag Uwch Swyddog Prosiect Trefi Smart ym Menter Môn, Rhian Hughes, a Sensibility, arbenigwyr technoleg, er mwyn dod o hyd i ateb i’w helpu i wella diogelwch bwyd, effeithlonrwydd y cwmni a chydymffurfiaeth reoleiddiol.
O ganlyniad, gosodwyd synwyryddion lleithder a thymheredd yn oergelloedd y siop, gan roi tawelwch meddwl i’r perchnogion bod stoc drud yn cael ei gadw’n ddiogel. Mae’r dechnoleg yn cynnwys porth LoRaWan sy’n caniatáu i synwyryddion drosglwyddo data pwysig, gan gynnwys pan fydd tymheredd yn mynd yn rhy uchel neu’n rhy isel. Mae rhybuddion yn cael eu hanfon at berchnogion y busnes trwy WhatsApp ac e-bost, sy’n galluogi iddynt ymateb yn syth.
Esboniodd David: “Gallwn rwan gofnodi tymheredd yn awtomatig ac cadw data yn electronig. Bydd hyn yn arbed amser ac ymdrech staff wrth storio’r cofnodion tymheredd ar gyfer archwiliadau bwyd. Mae’r siop yn hynod o brysur felly rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio amser yn fwy effeithlon.”
Gan weithio gydag arbenigwyr Trefi Smart, mae J A Thomas wedi defnyddio technoleg er budd y busnes, sy’n gadael iddynt ganolbwyntio ar eu cryfderau o wasanaethu cwsmeriaid a hyrwyddo’r busnes. Nid yn unig y mae’r dull hwn yn symleiddio eu gwaith, ond mae hefyd yn helpu i leihau gwastraff.
Ym mis Mai eleni, cymordd y busnes y cam o fuddsoddi £5,000 ar oergell arbenigol i aeddfedu cig. Mae’r offer yn storio stoc gwerth cannoedd o bunnoedd ar y tro.
“Mae cael un o’r synwyryddion yn yr offer yma yn rhoi tawelwch meddwl i ni yn enwedig wrth adael y siop ar y penwythnosau pan fyddwn yn cau ar ddydd Sadwrn tan fore Llun” esboniodd David.
Mae enw da yn bwysig i’r busnes, ychwanega David: “credwn fod cwsmeriaid yn fwy tebygol o ymddiried mewn cigydd sy’n dangos ymrwymiad i ddiogelwch bwyd trwy ddefnyddio technolegau monitro.”
Dywedodd Rhian Hughes o Menter Môn: “Rydym bob amser yn awyddus i weithio gyda busnesau lleol i’w helpu i ddatblygu a gwella effeithlonrwydd. Mae cyfle i fusnesau sy’n awyddus i gael gwybod sut i elwa ar dechnoleg Trefi Smart i gysylltu â ni i gofrestru er mwyn cael mynediad at gyngor ac adnoddau am ddim, gan gynnwys archwiliad data stryd fawr.”
Mae’r Hwb Menter yn cael ei arianu yn rhannol gan lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Mae hefyd yn derbyn cefnogaeth gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
Mae Trefi Smart Cymru yn rhaglen gymorth wedi ei ariennu gan Lywodraeth Cymru sy’n helpu cynghorau, cymunedau a busnesau i ddefnyddio technoleg a data i adfywio trefi yn unol â’r agenda Trawsnewid Trefi.
- All6368
-
News
5938
-
Education
2133
-
Leisure
1868
-
Language
1642
-
Arts
1462
-
Environment
1016
-
Politics
932
-
Health
689
-
Literature
646
-
Music
605
-
Money and Business
568
-
Agriculture
512
-
Food
455
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
285
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Training / Courses
83
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3