Arian y Loteri Genedlaethol yn cyfrannu at nerth a gwerth cymuned

November 16, 2023

Mae ymgyrch gymunedol Nerth dy Ben yn falch o gael dathlu ac wedi cyffroi am y dyfodol yn dilyn llwyddiant eu cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant o £99,750 i gefnogi eu bwriad a’u hamcanion.

Mae Nerth Dy Ben yn ymgyrch drwy gyfrwng y Gymraeg sy’n hybu sgwrs a chodi ymwybyddiaeth o rym a dylanwad y meddwl. Criw o chwe gwirfoddolwr ddaeth at ei gilydd yn y lle cyntaf wedi i Alaw Owen, y sylfaenydd, gael y syniad a’r weledigaeth yn dilyn damwain car ddifrifol. Sylweddolodd Alaw fod gennym i gyd nerth i ganolbwyntio ar gryfder yn hytrach na  gwendid, a’i fod yn rhywbeth rydyn ni yn ei gario gyda ni bob dydd, heb fod yn ymwybodol o hynny na’i gydnabod. 

Dywedodd Alaw, “’Dan ni’n byw mewn byd a chymdeithas lle mae’r pwyslais ar y negyddol yn aml. Yn naturiol, mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd ’dan ni’n gweld y byd, a’r ffordd dan ni’n ymateb ac yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd.

“Mi ddaeth Nerth Dy Ben fel syniad i mi pan ges i’r sylweddoliad mai fi yn unig sy’n gyfrifol am yr hyn dwi’n bwydo fy nghorff a’r meddwl a bod gen i’r gallu a’r pŵer i ganolbwyntio ar y nerth cadarnhaol a phositif yn fy mhen, a chanolbwyntio ar yr hyn roeddwn i’n gallu ei wneud yn hytrach na’r hyn roeddwn i wedi ei golli neu’n methu ei wneud bellach.

“Doeddwn i ddim yn teimlo ar y pryd fod unrhyw beth yn y Gymraeg yn rhoi platfform i ni rannu a dathlu y pethau positif sy’n ein gwneud ni’n gryf fel cymuned ac unigolion, sydd yn y pen draw yn gallu dylanwadu ar ansawdd y meddwl. A dyma ddechrau Nerth dy Ben.”

Mae Nerth Dy Ben yn cynnig lle i rannu gwahanol gryfderau pobl ac i ysbrydoli unigolion a'r gymuned wledig i gydnabod a dathlu llwyddiannau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Diolch i gefnogaeth werthfawr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Nerth dy Ben yn cael y cyfle i ddatblygu’r gwaith mae wedi’i wneud ers ei sefydlu ym mis Chwefror 2021. 

Y bwriad ydy parhau i gynnal digwyddiadau amrywiol ac adloniannol gan ehangu ar y ddarpariaeth bresennol. Bydd Nerth dy Ben hefyd yn canolbwyntio ar greu sgyrsiau sy’n cylchdroi o amgylch sgiliau, asedau a rhinweddau pobl, yn rhannu cynnwys digidol sy’n dylanwadu ar newid a phersbectif, ac yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio gyda rhwydwaith o bartneriaid sy’n cyd-fynd â dyheadau yr ymgyrch a’r gymuned.

Yn ogystal, mae Nerth dy Ben yn hysbysebu ei swydd ran-amser gyflogedig gyntaf, diolch i gefnogaeth y grant Pawb a’i Le gan y Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n chwilio am Swyddog Datblygu brwdfrydig i ymuno â’u tim angerddol. 

Un o gyfarwyddwyr y cwmni ydy Elen Jones, ac mae hi’n pwysleisio y bydd y swydd yn allweddol i ddatblygiad ymgyrch y cwmni dros y dair mlynedd nesaf:

“Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am reolaeth effeithiol Nerth dy Ben o ddydd i ddydd, gan gynnwys gweithredu a diweddaru cynllun busnes y sefydliad i sicrhau bod Nerth dy Ben yn datblygu mewn modd rhagweithiol a chreadigol.”

Pobl o fewn y gymuned ydy asgwrn cefn Nerth dy Ben yn ôl Alaw, a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n helaeth gyda’r gymuned leol yn ardal Conwy a Sir Ddinbych: 

“Mae’n hollbwysig i ni fod ein projectau yn cael eu siapio a’u harwain gan safbwyntiau ac anghenion pobl yn y gymuned, gyda’r gobaith o gyfrannu tuag at greu cymunedau cryfach ac unigolion hyderus sy'n deall eu hunain ac yn sylweddoli beth yw eu potensial. ’Dan ni’n hynod o ddiolchgar am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, ac am waith diflino y Swyddog Ariannu lleol, Eirian Jones, yn ein harwain ni drwy’r cwbl a chredu yn ein gweledigaeth.”

Dywedodd Eirian Jones o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae'r Gronfa’n ymrwymo i gefnogi projectau fel Nerth dy Ben sy'n dod â phobl ynghyd yn eu cymunedau a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Rydyn ni’n falch o allu eu cefnogi i ehangu ar y ddarpariaeth hollbwysig maen nhw’n ei gynnig i bobl yng nghymunedau gwledig gogledd Cymru, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.” 

Yn ôl Alaw, “Mae ymateb y gymuned i weithgaredd a fformat Nerth dy Ben wedi dangos bod galw ac angen am weithgarwch a sgyrsiau sy’n buddsoddi yn ein hyder ni fel unigolion a dathlu ein cryfderau o fewn cymunedau ac yn ehangach. Heb os, mae gennym gymuned arbennig a thrawstoriad eang o sgiliau a thalentau amrywiol. Mae’n gymuned sy’n gallu addasu drwy’r amser ac ymateb i heriau gwaith a bywyd hefo dyfeisgarwch a dyfalbarhad.

“’Dan ni’n credu bod gennym ni i gyd y gallu i arwain ar wella'n bywydau a’n cymunedau, ac y dylai pob unigolyn gymryd y pŵer yn ôl i’w ddwylo ei hun a defnyddio nerth y pen. ’Dan ni wedi cyffroi’n lân i gael y cyfle a’r gefnogaeth i ymateb i’r galw a pharhau â’r gwaith pwysig hwn.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y swydd Swyddog Datblygu, ewch yma. Dyddiad cau: 20 Tachwedd 2023

Am fwy o wybodaeth am grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a sut i ymgeisio, ewch i www.cronfagymunedolylg.org.uk 

More

SEE ALL

Menter a Busnes agor tair swyddfa newydd

Yr Urdd yn Cynyddu'r Economi Gymreig gan £45 Miliwn yn 2022-23

Newid cyfansoddiadol yn hanfodol i greu llwybr i Gymru well – Yr Athro Laura McAllister

  • All6260
  • News
    5841
  • Education
    2125
  • Leisure
    1861
  • Language
    1631
  • Arts
    1451
  • Environment
    1001
  • Politics
    932
  • Health
    680
  • Literature
    645
  • Music
    600
  • Money and Business
    550
  • Agriculture
    487
  • Food
    448
  • Sports
    366
  • The National Eisteddfod of Wales
    320
  • Science and Technology
    277
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    176
  • Training / Courses
    72
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    3
  • Letters
    3