Agoriad cae pob-tywydd Canolfan Hamdden Plascrug

July 17, 2024

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch iawn o gyhoeddi bod y cae pob-tywydd newydd ger Canolfan Hamdden Plascrug wedi'i gwblhau ac ar agor i’w ddefnyddio. Mae'r cyfleuster yma, sydd o'r radd flaenaf, nawr ar gael i'w ddefnyddio gan bawb yn y gymuned.

Derbyniwyd cyllid hael iawn gan Chwaraeon Cymru, Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU, a Chyngor Sir Ceredigion i gwblhau’r gwaith, ac fe’i cyflawnwyd drwy Fframwaith Hamdden y DU ac Alliance Leisure.

Mae'r cae chwarae pob-tywydd yn cynnwys carped byr ar sylfaen o dywod, sy'n ei wneud yn addas ar gyfer nifer o chwaraeon. Bydd hi’n bosib chwarae pêl-rwyd, hoci, pêl-droed a rygbi cyffwrdd arno. Bydd yr arwyneb aml-bwrpas yma yn sicrhau bod amrywiaeth eang o bobl yn gallu mwynhau profiadau chwaraeon o safon uchel. Mae llifoleuadau LED ynni effeithlon hefyd wedi'u gosod i alluogi chwaraewyr i ddefnyddio’r cyfleuster trwy gydol y flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Mae’r cae pob-tywydd newydd yng Nghanolfan Hamdden Plascrug yn enghraifft wych o sut mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau chwaraeon o safon uchel i bobl Ceredigion.

“Mae’n wych gweld trawsnewid ardal segur yn gae chwarae modern, aml-bwrpas, deniadol, a bydd yn ehangu ar yr y cyfleusterau sydd i’w cael yng ngogledd y Sir. Y gobaith yw y bydd yn cefnogi ac yn gwella lles cymunedol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleuster newydd, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Plascrug ar 01970 624579.

More

SEE ALL

Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion

Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru yn agor 

Mentera yn lansio SBARC Ceredigion i rymuso entrepreneuriaid

  • All6424
  • News
    5991
  • Education
    2141
  • Leisure
    1870
  • Language
    1656
  • Arts
    1469
  • Environment
    1026
  • Politics
    932
  • Health
    694
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    580
  • Agriculture
    523
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    193
  • Training / Courses
    91
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3