Adeilad S4C yn cael ei ailenwi'n 'Corlan Dai Llanilar' fel teyrnged i Dai Jones
July 23, 2024
Bydd llechen yn cael ei ddadorchuddio ar furiau adeilad S4C am 10.45 a derbyniad coffa i ddilyn am 11.00.
Yn y derbyniad bydd gwasg Y Lolfa’n lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi’u llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o’i fywyd. Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a’i weddw, Olwen.
Bu farw Dai Jones, oedd hefyd yn ffermwr ac yn ganwr talentog yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.
Bu’n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae’n cael ei gofio’n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.
Mae’r llechen, sy’n cyfeirio at Dai fel y ‘Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr’, yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion, ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:
Dai
Dai’r ardal hyd y dalar, - Dai â’i lais
Hyd y wlad, Dai’r cymar,
Dai frenin ei werin wâr.
Llawn o hwyl yw Llanilar.
Meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C:
“Mae’r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i’w gwneud.
“Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a’i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.
“Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau’r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo.”
Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru:
"Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i’w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas. Ac eleni, mae’n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl. Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon.”
- All6384
-
News
5954
-
Education
2137
-
Leisure
1869
-
Language
1645
-
Arts
1465
-
Environment
1019
-
Politics
932
-
Health
691
-
Literature
646
-
Music
606
-
Money and Business
573
-
Agriculture
517
-
Food
456
-
Sports
370
-
The National Eisteddfod of Wales
329
-
Science and Technology
286
-
Online
261
-
Eisteddfod yr Urdd
184
-
Training / Courses
85
-
Competitions
47
-
Opinion
16
-
Papurau Bro
14
-
Book reviews
13
-
TV
11
-
Music Reviews
6
-
Royal Welsh Show
4
-
Letters
3