Adam Jones y Garddwr wedi’i benodi’n Gyfarwyddwr Garddwriaeth newydd i Sioe Frenhinol Cymru

November 15, 2023

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn falch iawn ogyhoeddi penodiad Adam Jones (Adam yn yr Ardd) yn Gyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol newydd Garddwriaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae hyrwyddo garddwriaeth yn un o amcanion elusennol allweddol y Gymdeithas ac mae cynlluniau ar fynd i sefydlu Pentref Garddwriaethol newydd yn Sioe Frenhinol Cymru 2024, yn dathlu pob agwedd ar arddwriaeth yng Nghymru. 

I’n helpu i gyflawni’r weledigaeth yma, mae CAFC wedi penodiAdam Jones fel y Cyfarwyddwr Garddwriaeth gwirfoddolnewydd i gymryd rhan arweiniol yn yr adran. Bydd y swydd yn golygu goruchwylio datblygiad y pentref garddwriaetholnewydd, cysylltu â rhanddeiliaid allweddol, a dod ag arddangoswyr a chyfleoedd noddi i Sioe Frenhinol Cymru. 

Bydd y garddwr adnabyddus o Sir Gaerfyrddin, sy’n cael ei adnabod fel Adam yn yr Ardd, yn wyneb a llais cyfarwydd i lawer. Mae Adam wedi datblygu llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda dros 26,000 o ddilynwyr arInstagram (@adamynyrardd). Mae Adam yn awdur llyfr garddio i blant hefyd, ac yn westai rheolaidd ar BBC Radio Cymru arhaglenni S4C Prynhawn Da a Heno.

Dechreuodd Adam arddio pan oedd ond yn dair blwydd oed gan ddilyn mwyniant garddio ei dad-cu.  Yn awr, gyda dros ugain mlynedd o brofiad garddio, mae Adam yn pleidio garddio organig ac ystyriol o natur ac yn ymdrechu i annog a gwella bioamrywiaeth, gan weithio gydag ysgolion a grwpiaucymunedol.  

“Pan wnaeth Prif Weithredwr CAFC a minnau gyfarfod Adam, gwnaeth ei egni a’i weledigaeth argraff enfawr ar y ddau ohonom,” meddai Richard Price, Cyfarwyddwr y Sioe. 

“Mae gydag Adam gymaint o syniadau gwych i wneud yr adran arddwriaethol yn lle diddorol a bywiog. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Adam, a’n tîm o wirfoddolwyr a rhanddeiliaid o bob cwr o’r diwydiant i ddod â’r pentrefgarddwriaethol newydd yn fyw mewn pryd ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru y flwyddyn nesaf.” 

Mae Adam Jones yn gyffrous i ddechrau ei swydd. “Rwyf wrth fy modd o gael cynnig y cyfle gwych yma i weithio gyda’r Gymdeithas ac unigolion rhagorol o bob cwr o Gymru i wireddu potensial y pentref garddwriaethol newydd,” meddai Adam.

“Rwyf yn cefnogi â’m holl galon y weledigaeth i ysbrydoli, addysgu a chydweithredu a bydd hyn yn hollbwysig wrth aildanio bri’r adran arddwriaethol fel rhan annatod o’r sioe. 

Rwyf yn wirioneddol edrych ymlaen at annog cenhedlaeth newydd o arddangoswyr a thyfwyr i gystadlu a dathlu eu gwaith, gyda ffocws mawr ar addysg. Mae’r cyfleoedd i gydweithio gyda grwpiau ar draws Cymru a hyrwyddo garddwriaeth yn ddiddiwedd.

Mae i’r adran arddwriaethol hanes hir a chyfoethog o ddangos Cymru ar ei gorau un ar lwyfan ryngwladol ac yn awr mae gennym gyfle euraidd i ddatblygu a dathlu garddwriaeth Cymru ymhellach.”

Bydd Adam yn ymuno â ni yn y Ffair Aeaf sy’n dod yn ddiweddarach y mis hwn fel siaradwr gwadd yn ystod ein rhaglen addysgol newydd ‘Our Land / Ein Tir’.   

Edrychwn ymlaen at groesawu Adam i dîm Sioe Frenhinol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffair Aeaf neu i brynu tocynnau, ewch i’n gwefan.

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3