Achub Siop Bys a Bawd - cadw’r Gymraeg yn Llanrwst

February 24, 2025

Mae Siop Bys a Bawd wedi bod yn rhan annatod o stryd fawr Llanrwst ers 70 mlynedd, gan wasanaethu’r gymuned fel siop lyfrau Gymraeg, siop gardiau, teganau, anrhegion ac offer swyddfa. Ond gyda’r perchennog presennol, Dwynwen Berry, yn ymddeol ac amheuon ynghylch dyfodol y siop, mae’r gymuned yn wynebu’r perygl o golli’r siop lyfrau Gymraeg olaf yn Sir Conwy.

Agorwyd Siop Bys a Bawd yn 1955 gan Dafydd ac Arianwen Parry ac mae’n debyg mai hon oedd y siop lyfrau Gymraeg gyntaf yng Nghymru. Dros y degawdau, mae wedi dod yn ganolbwynt diwylliannol a chymdeithasol i’r dref, gan feithrin cysylltiadau cryf gyda’r gymuned leol a hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg.

Yn 2023, rhoddwyd y siop, y busnes a’r ddwy fflat uwchben ar werth. Heb ddigon o ddiddordeb gan brynwyr preifat, trodd Cyngor Llyfrau Cymru at Menter Iaith Conwy i archwilio cyfleoedd i achub y siop drwy fenter gymunedol. O ganlyniad, cynhaliwyd dau gyfarfod cyhoeddus ym mis Ebrill 2024, gan ddenu cefnogaeth frwd gan tua 50 o bobl leol.

Yn sgil hyn, ffurfiwyd pwyllgor Bys a Bawd Pawb gyda grŵp amrywiol o unigolion lleol sy’n rhannu’r uchelgais i gadw’r siop ar agor. Bydd y grŵp yn lansio cynnig cyfranddaliadau ym mis Mawrth 2025, gan roi cyfle i’r gymuned fuddsoddi yn nyfodol y siop.

Mae’r cynllun yn mynd y tu hwnt i gadw’r drysau ar agor. Mae’r pwyllgor yn anelu at wneud Siop Bys a Bawd yn ganolbwynt diwylliannol a llenyddol i’r dref – lle i gynnal digwyddiadau, sgyrsiau, arwyddo llyfrau, a gweithdai creadigol i blant a phobl ifanc. Bydd y siop hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg gymdeithasu ac ymarfer eu sgiliau mewn awyrgylch croesawgar.

Mae’r ddwy fflat sydd ynghlwm wrth yr adeilad yn rhan bwysig o’r cynllun hefyd. Yn hytrach na’u troi’n lety gwyliau, mae’r bwriad i’w cadw fel cartrefi i bobl leol, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng y siop a’i chymuned.

Bydd y cynnig cyfranddaliadau yn darparu cyfle i’r cyhoedd fuddsoddi mewn busnes lleol, gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i brynu’r siop ac i gefnogi ei datblygiad. Bydd y busnes yn cael ei reoli gan y bwrdd ar ran buddsoddwyr, gan sicrhau model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Ymunwch â’r Ymgyrch i Achub Siop Bys a Bawd
Mae cefnogaeth y gymuned yn hollbwysig i sicrhau dyfodol y siop. Os hoffech chi gyfrannu neu ddarganfod mwy am y cynllun cyfranddaliadau, cysylltwch â ni:

www.bysabawdpawb.cymru

Meirion, Menter Iaith Conwy – 01492 642357

More

SEE ALL

Cronfa Her ARFOR: £2M yn Sbarduno Twf, Swyddi ac Arloesedd yn yr Economi Gymraeg

Cyfle i siapio economi las yng Ngogledd Cymru

Mentera yn lansio interniaeth i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

  • All6403
  • News
    5971
  • Education
    2140
  • Leisure
    1870
  • Language
    1652
  • Arts
    1467
  • Environment
    1023
  • Politics
    932
  • Health
    693
  • Literature
    646
  • Music
    606
  • Money and Business
    578
  • Agriculture
    519
  • Food
    457
  • Sports
    370
  • The National Eisteddfod of Wales
    329
  • Science and Technology
    286
  • Online
    261
  • Eisteddfod yr Urdd
    185
  • Training / Courses
    88
  • Competitions
    47
  • Opinion
    16
  • Papurau Bro
    14
  • Book reviews
    13
  • TV
    11
  • Music Reviews
    6
  • Royal Welsh Show
    4
  • Letters
    3