Yr Enfys

Music Image
Label: feinyl
Format: feinyl
Artist Name: Griff Lynch
Release Date: 29/04/2022

Rhyddheir ‘Yr Enfys’ gan Griff Lynch ddydd Gwener 29ain o Ebrill, 2022 ar label recordiau I KA CHING. Caiff ei chwarae ar y radio am y tro cyntaf ar yr un diwrnod ar raglen Tudur Owen.

Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING dipyn o garreg filltir wrth ddathlu deng mlwyddiant o fodolaeth. Dechreuwyd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’n rhaid parhau eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. Rhyddheir cân yr wythnos hyd nes yr 20fed o Fai 2022, ble cyhoeddir yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog.

Does dim rhaid cyflwyno Griff Lynch bellach, fel prif leisydd y grŵp poblogaidd Yr Ods ac fel artist unigol pop-electronig. Ac o dan yr ail brosiect y mae’n cyfrannu at y casgliad hwn, a da o beth fo hynny, gan fod rhai o’i gyn-senglau, megis ‘Hir Oes Dy Wên’ yn beltar.

“Mae ‘Yr Enfys’ yn gân sy'n dweud stori merch o'r enw Eleri, sy'n ceisio cyrraedd man gwyn man draw, ac yn chwilio am drysor o dan yr enfys”, eglura Griff.

“Roeddwn i'n awyddus i greu cân mewn byd dychmygol, a dweud stori ysgafn. O fewn y stori, mae 'na fymryn o wers, ond does dim rhaid edrych allan amdano, dim ond mwynhau'r 'hooks'!”

BUY

More

SEE ALL

Hedfan i Ffwrdd

Da ni ar yr un lôn

test music