Y Nos
Y Nos’ yw Albym newydd atmosfferig ‘Woodooman’, yr artist aml-offerynnol o Gaerdydd, Iwan Ap Huw Morgan.
"Mae'r albym yn tynnu ar gariad yr artist at unigedd. Mae'n ddathliad o harddwch y nos a'i dirgelwch sy'n ein hannog i ryddhau ein meddyliau a'n calonnau i'r anhysbys."
Mae ‘Y Nos’ yn gasgliad o ganeuon sy’n crynhoi tirwedd 'o dân i rew’ arlwy creadigol diweddaraf Iwan, gan dreiddio i fyd seicedelig tywyllach o stoner-punk arbrofol, tanddaearol.
Dwys, atmosfferig a tribal ar adegau; mae ‘Y Nos’ yn brofiad dyrchafol ac arswydus sy’n llawn elfennau o wreiddiau cyfriniol Woodooman.Mae llais angerddol 'Morgan' yn wirioneddol drawiadol a syfrdanol, a dylanwadau fel y diweddar fawr Mark Lanegan a Nick Cave yn dod i'r arwyneb.
Bydd 'Y Nos' yn rhyddhau ar 24ain o Fehefin drwy Recordiau Dewin.