Superted
Mae Côsh yn falch o gael rhyddhau y sengl gyntaf Cymraeg gan Angel Hotel, band mae’r label wedi bod yn dilyn yn astud dros y flwyddyn diwethaf.
Wedi eu hysbrydoli gan tiwns anferth ‘power-pop’ o’r 80egau, mae’r band eisioes wedi rhyddhau 3 trac ar gefn gwaith caled eu hunain; ‘By All Means Necessary’, ‘Mourning Breeze’ a ‘Key Largo’, ac mae 'Superted' yn ddilyniant naturiol cerddorol perffaith. Dywedodd Siôn y canwr, “Mae Superted yn gân freuddwydiol, felancolaidd sy'n trafod teimladau o golled a hiraeth. Mae’n llawn themâu o ‘nostalgia’ sy’n teimlo’n arallfydol ar adega. ‘Ry ni wedi rhoi ymgais ar ochr fwy teimladwy i’n hysgrifennu gyda’n cân Gymraeg gyntaf, ynghyd a awgrymiadau o obaith mewn rhywbeth cyfawrwydd”.
Ffurfiwyd y band yn ystod y flwyddyn gwaethaf ers degawdau, ond er i 2020 a 21 achosi amryw o broblemau ymarferol, mae Angel Hotel wedi llwyddo i wneud enw iddyn nhw’i hunain fel band byw egniol gyda set wych o geneuon gwreiddiol, yn ogystal a’u fersiwn nhw’i hunain o glasur SFA, ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’. Cafodd y band noson gofiadwy yn Star Cafe fel rhan o wyl Focus Wales llynedd, lle gosodwyd eu stamnp fel act i gadw llygad ar yn 2022. Bydd digon o gyfleon i weld y band yn fyw yn y misoedd nesaf hefyd, yn cynnwys;
Ebrill 22 - Porter’s, Caerdydd
Ebrill 29-Mai 1 - All Roads Festival, Glastonbury
Awst 19-22 - Trufest, Y Gelli Gandryll