Music Image
Label: I KA CHING
Format: Albym
Artist Name: Amrywiol
Release Date: 20/05/2022

Rhyddheir ‘I KA CHING X’ sef casgliad o un cân ar bymtheg i ddathlu pen-blwydd label recordiau I KA CHING yn ddeg oed ddydd Gwener 20fed o Fai, 2022.

Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING dipyn o garreg filltir wrth ddathlu deng mlwyddiant o fodolaeth. Dechreuwyd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’n rhaid parhau eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label.

Mae’r label wedi rhyddhau cân yr wythnos ers diwedd Ionawr gan artistiaid sydd wedi cyfrannu i’r label mewn amryw o ffyrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Braint felly yw cyrraedd y penllanw wrth gyhoeddi yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog fendigedig. Fel gyda’r casgliad pump oed, Geth Vaughn o Young Design sydd wedi cynllunio a chysodi’r gwaith celf trawiadol.

Y trac cyntaf i’w ryddhau oddi ar y casgliad oedd cyfyr athrylithgar Candelas o ‘Y Gwylwyr’ gan Brân a gwahodd Nest Llywelyn o’r band i gyd-ganu. Wedi hynny daeth ‘Trai’ gan Gwenno Morgan, ail-gymysgiad Carcharorion o ‘Y Milltiroedd Maith’ gan Steve Eaves, ‘Sara’ gan Glain Rhys, ‘Cont y Môr’ gan Blind Wilkie Mcenroe, ‘Gwingo’ gan Ffracas, ‘Morfydd’ gan Blodau Papur, ‘Canu Gwlad’ gan Yr Eira, ail-gymysgiad Nate Williams o ‘Dal ar y Teimlad’ gan Mared Williams, ‘Chwalu’r Hud’ gan Serol Serol, ‘Nia’ gan Geth Vaughn, ‘Mabli’ gan Siddi, ‘Targed’ gan Dienw, ‘Yr Enfys’ gan Griff Lynch, ail-gymysgiad Sywel Nyw o ‘Red Astair’ gan Cpt Smith, a chloi gyda ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl...’ gan Y Cledrau.

“Maer’n anodd credu bod ‘na ddeg mlynedd wedi pasio er i ni gychwyn y label, ac allai wir ddim egluro pa mor falch yda ni o allu bod wedi cyd-weithio efo gymaint o artistiaid anhygoel. Mae’n gwestiwn amhosib pan fydd rhywun yn gofyn beth yw fy hoff release neu artist o’r label, ond yr ateb onest yw ‘yr un diwethaf i ni ryddhau’ oherwydd y mwynhad da ni yn cael efo pob un. Felly mwynhewch y casgliad yma, release gorau eto gan y label... am y tro beth bynnag. Ymlaen i’r ddegawd nesaf!”, meddai Gwion Schiavone (sylfaenydd ac un o reolwyr Recordiau I KA CHING).
Fe chwaraeir yr holl draciau ar raglen arbennig gan Huw Stephens nos Iau 19eg, 2022.

BUY

More

SEE ALL

Hedfan i Ffwrdd

test music

Cysgod Mis Hydref