Cysgod Mis Hydref

Music Image
Label: Sengl
Format: Sengl
Artist Name: Candelas
Release Date: 27/05/2022

Mae ‘Cysgod Mis Hydref’ sengl newydd Candelas yn ddigyfaddawd o drwm, mor catshi ag annwyd ac yn ein hatgoffa mai ‘man hapus’ y band yma ydi yng nghanol sŵn roc budur.
Cân serch glwyddog ydi ‘Cysgod Mis Hydref’ sy’n trafod y teimlad braf o fod mewn cariad a sut mae’r pethau bach, fel gweld neges gan y person yna yn ymddangos ar dy ffôn, yn dod a chysur.
Daeth y teitl yn syml wrth i Osian, y prif leisydd, fyfyrio ar ba mor hir ydi’r cysgodion yn y misoedd gaeafol. Trodd y syniad yn gytgan wedyn sy’n plethu teimladau a’r tymhorau; “Un noson ac mae’r ysfa yn ôl, fatha creu tân oer yn y gaeaf. Dy weld di’n gorwedd fel cysgod mis Hydref, yn nefoedd mewn noson o haf.”
Mae Candelas yn dal eu gafael yn dynn ar y teitl o fod yn un o fandiau amlycaf sîn gerddoriaeth Cymru. Ddechrau’r flwyddyn, fe chwython nhw bennau pawb gyda’u fersiwn newydd o ‘Y Gwylwyr’ gan Brân, ar y cyd â phrif leisydd y grŵp, sef Nest Llewelyn. Cyn hynny, bu iddynt ryddhau anthem newydd i Gymru, sef ‘Mae’n Amser / We Think It’s Time’ a ddefnyddiwyd ar raglen Match of the Day wedi gem anhygoel Cymru yn erbyn Awstria.
Mae fideo ‘Cysgod Mis Hydref’ wedi ei greu gan Rhys Grail, ac mae’n dangos clipiau o dros ddegawd o gigs Candelas, yn ogystal â’r band yn recordio’r sengl yn Stiwdio Sain. Mae’n ddiddorol, ond fel cofnod o steiliau gwallt a faint o flew oedd ar y llwyfan ar un adeg.
Dangosir fideo ‘Cysgod Mis Hydref’ am y tro cyntaf ar wefan Klust, ac yna fe’i chwaraeir ar y radio am y tro cyntaf ar raglen Tudur Owen ddydd Gwener 27ain o Fai.

BUY

More

SEE ALL

Cyn i ti Adael

I KA CHING X

Superted