Cân Merthyr
Mae Kizzy wedi cael cyfnod tu hwnt o gynhyrchiol dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r gerddoriaeth yn dal i lifo ganddi wrth iddi ryddhau sengl newydd o’i halbym newydd o ganeuon gwerin ac emynau Cymreig. Mae ‘Cân Merthyr’ yn un o’r caneuon oddi ar yr albym ‘Cariad y Tir’, fydd yn cael ei ryddhau ar Fai 20fed, albym sy’n mynd â Kizzy ar drywydd fymryn yn wahanol ac sy’n gyfle iddi arbrofi gyda nifer o ganeuon sy’n agos at ei chalon.
Mae Cân Merthyr yn gân facaronig, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn eistedd ochr yn ochr a hynny’n gwbl naturiol. Mae’n gân eitha doniol am ddyn a’i berthynas amheus gyda’i wraig! Yn ôl Kizzy, “er bod y stori ddim yn un positif iawn mae’r ffordd y cafodd ei hysgrifennu yn ddiddorol a dyna beth wnaeth fy nenu i at y gân ’ma, ac wrth gwrs mae wedi ei seilio yn Merthyr, lle dwi’n byw. O’n i eisiau rhoi sbin fy hun ar y gân trwy greu cerddoriaeth siriol a hwyliog i wrthgyferbynnu efo’r stori dywyll...”
Unwaith eto mae Kizzy wedi recordio, cynhyrchu a chymysgu popeth ei hun yn ei stiwdio gartref yn ogystal â chwarae’r holl offerynnau.