This job advert has expired

Ymchwilydd

Ymchwilydd

Overview:

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf o fewn y diwydiant teledu. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd a’r uchelgais i fynd ymhellach.

Employers Name: Tinopolis
Salary: Yn ddibynnol ar brofiad
Closing Date: 09/08/2024
Closing Time: 17:30:00
Contact Name: Adnoddau Dynol
Location: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Carmarthenshire, Wales, SA15 3YE
Description:

Ymchwilydd – Tinopolis, Llanelli

Mae swydd ymchwilydd yn gam cyntaf o fewn y diwydiant teledu. Dyma swydd sy’n gyflwyniad i’r broses gynhyrchu ac yn sylfaen dda ar gyfer unrhyw un sydd a’r uchelgais i fynd ymhellach.

Fel aelod o dîm o ymchwilwyr, fe fyddwch yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau i ddod o hyd i eitemau, stiwdio a rhai i’w ffilmio ar leoliad, ar gyfer Prynhawn Da a Heno. Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Tîm Cynhyrchu, fe fyddwch yn gyfrifol am drefnu lleoliad, cyfranwyr, criw ffilmio a llunio nodiadau ar gyfer y cyflwynydd/gohebydd ynghyd ag unrhyw fater arall sydd angen ei drefnu. Yn dilyn hyfforddiant, fe fyddwch yn llunio drafft cyntaf o asesiad risg ar gyfer unrhyw ffilmio.

Mae Prynhawn Da a Heno yn rhaglenni byw dyddiol, felly byddwch yn gweithio dan bwysedd amser yn aml er mwyn sicrhau fod eitemau’n cyrraedd y sgrin mewn pryd. Mae Heno yn darlledu’n fyw o 7:00yh tan 7:30yh ac mae disgwyl i un ymchwilydd weithio tan ddiwedd y darllediad bob nos. Ar adegau gall eitemau hwyr olygu fod angen gweithio hyd at amser darlledu’r rhaglen.

Fel rhan o’ch gwaith fe fyddwch yn cynorthwyo ar lawr y stiwdio, trefnu/prynu defnyddiau ar gyfer eitemau stiwdio, cynorthwyo gyda pheiriant Autocue yn ystod ymarfer a darlledu neu, gyda chriw camera, yn holi barn pobl ar y stryd.

Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: Awst 9fed 2024

Manylion Pellach
Oriau Gwaith: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos dros 5 diwrnod. Ond oherwydd natur y swydd ac oriau rhaglenni disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Gwyliau: Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r

Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau: Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn ddydd Gwener Awst 9fed 2024 at swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE. Fe dderbynnir ceisiadau fideo.

Yn unol â Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i fyw a gweithio yn y DU. Bydd yn ofynnol cael tystiolaeth ddogfennol o gymhwyster gan ymgeiswyr fel rhan o’r broses recriwtio.

Gwybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch chi pan fyddwch yn ymgeisio am swydd yn Tinopolis: Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV fel rhan o’r broses. Byddwn yn cadw copi o’ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn codi yn y cyfnod hwn, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth er mwyn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o’n ffeiliau ar unrhyw adeg. Am ragor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice 

More

SEE ALL

Project Officer

Receptionist

Translator