This job advert has expired

Welsh Tutor

Welsh Tutor

Overview:

Lleoliad: Covent Garden, Llundain/Ar-lein 

Cyflog: £37.96 yr awr, gan gynnwys hawl gwyliau pro rata ac amser paratoi

Oriau Gwaith: Amrywiol 

Ydych chi'n Diwtor Cymraeg deinamig ac arloesol sy'n angerddol am addysgu oedolion? Os felly, beth am ymuno ag Adran Ieithoedd ffyniannus yn ein coleg 'rhagorol' Ofsted lle gallwch helpu i ddod â phobl ledled Llundain a thu hwnt ynghyd, ac i gyfoethogi bywydau trwy ddysgu.

Mae'r adran yn cynnig cyrsiau mewn dros 30 o ieithoedd modern, gan ieithoedd Celtaidd fel y Gymraeg, ac yn darparu addysg ar bob lefel, o ddechreuwyr i uwch, gyda fformatau ar-lein a wyneb-yn-wyneb, drwy'r wythnos, gyda'r nos ac ar benwythnosau. Bydd y rôl hon yn chwarae rhan allweddol wrth alluogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith Cymraeg a chyfathrebu'n effeithiol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn. 

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am diwtor(au) Cymraeg ar gyfer:

-        Welsh Beginners: module 1, ym mis Medi, 11 wythnos x 1.5 awr, cyflwyno wyneb-yn-wyneb gyda'r nos neu ddydd Sadwrn (manylion i'w trafod adeg y cyfweliad yn ôl argaeledd). Bydd hwn yn gyfle tymor penodol gyda'r posibilrwydd o barhau o fis Ionawr 2025.

-        Welsh Beginners: module 1/2/3, 11/11/10 wythnos o fis Medi, 1.5 awr yr wythnos, darpariaeth ar-lein gyda'r nos (manylion i'w trafod adeg y cyfweliad yn ôl argaeledd).  Bydd hwn yn gyfle parhaol a pharhaus. 

-        Welsh 2 Upper module 1/2/3, 11/11/10 wythnos, dydd Llun 18:00 – 20:00, cyflwyno ar-lein. Bydd y modiwl cyntaf yn dechrau ym mis Medi 2024, a bydd hwn yn gyfle tymor penodol.

Os nad ydych ar gael ar gyfer y cyrsiau uchod ond yr hoffech gael eich ystyried ar gyfer y Banc Talent ar gyfer cyfleoedd addysgu eraill a allai godi o fewn ein darpariaeth Gymraeg ar-lein a/neu wyneb-yn-wyneb, o ddechreuwyr hyd at uwch, yn ystod y dydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau, peidiwch â cholli allan a gwnewch gais hefyd! 

Dewch yn rhan o'n cymuned 

City Lit yw darparwr dysgu i oedolion mwyaf Llundain, gan ysbrydoli dros 30,000 o fyfyrwyr y flwyddyn ac yn cynnig mwy na 5,000 o gyrsiau, ar-lein a wyneb-yn-wyneb. Fel arweinydd yn ein maes, sydd wedi cael eu hystyried yn rhagorol ym mhob maes gan Ofsted, mae gennym enw da sy'n ymestyn dros ganrif am ddarparu profiad myfyrwyr o'r ansawdd uchaf. Gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau cymunedol ledled Llundain, rydym yn darparu prosiectau pwrpasol sy'n cefnogi unigolion a chymunedau.

I wneud cais, cyflwynwch eich CV a llythyr eglurhaol, sy'n manylu ar eich sgiliau a'ch profiad. Rydym yn croesawu dogfennau yn y Gymraeg a/neu yn Saesneg. Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyrsiau penodol sydd ar gael, nodwch hyn fel rhan o'ch cais.

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol: 

·       Lefel uwch o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig, gyda'r gallu i sgwrsio ar lefel siaradwr brodorol/profiadol. 

·       Profiad o ddysgu Cymraeg, yn ddelfrydol i grwpiau o oedolion. 

·       Y wybodaeth, brwdfrydedd a diddordeb diweddaraf am y Gymraeg fel pwnc.

Mae ein gwobrau a'n buddion hael yn niferus ac yn eang, gan gynnwys gweithio hyblyg, gostyngiadau cwrs hael i aelodau o staff a'u ffrindiau a’u teuluoedd, cynllun pensiwn ynghyd â sicrwydd bywyd a gwyliau blynyddol (annual leave) "Family Friendly". Mae rhaglen benthyciad tocyn tymor hefyd ar gael, mynediad at raglen gostyngiadau i fyfyrwyr (Totum), cynllun beicio i'r gwaith, a chynigion gofal iechyd preifat a champfa ostyngedig. Rydym hyd yn oed yn cynnig brechiadau ffliw blynyddol am ddim!

Wedi'i leoli yng nghymuned greadigol Covent Garden yn Llundain, mae City Lit yn ganolbwynt dysgu a chyfleoedd ffyniannus gydag awyrgylch amlwg o bwrpas a hunaniaeth gan gynnwys diwylliant o gydraddoldeb a chynwysoldeb. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth yn meithrin creadigrwydd ac arloesedd ac rydym wedi ymrwymo i gyfleoedd cyfartal, i fod yn deg a chynhwysol, ac i fod yn fan lle mae pawb yn perthyn.  Felly, rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n debygol o gael eu tangynrychioli, mae'r rhain yn cynnwys ceisiadau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y rhai sydd ag anabledd a'r gymuned LGBTQI+.  Rydym yn darparu cymuned broffesiynol a chefnogol sy'n cyfuno addysgu a dysgu i gyflwyno posibiliadau diddiwedd.

Am fanylion llawn y rôl, cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd isod.    

Gwnewch gais drwy glicio ar y ddolen ganlynol a dod o hyd i'r swydd wag berthnasol: 

https://isw.changeworknow.co.uk/citylit/vms/e/careers/positions/cheKWMXrvmSyN7nWP2CkMh

Dyddiad Cau: 23:59 ar 18 Awst 2024 

Dyddiad Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 2 Medi 2024 

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: City Lit
Salary: £37.96 per hour, inclusive of pro rata holiday entitlement and preparation time
Closing Date: 18/08/2024
Closing Time: 23:30:00
Location: Location details can be found in the description
Description:

Tiwtor Cymraeg 

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Downloads / Forms and useful documents:

Disgrifiad Swydd

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW

More

SEE ALL

Deputy Chief Executive People Experiences and Culture

Communications & Events Officer

Swyddog Sicrhau Ansawdd (0.8 FTE) (dros dro)