This job advert has expired
Uwch Weithiwr Chwarae
Uwch Weithiwr Chwarae
Overview:
Fel Uwch Weithiwr Chwarae, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad a sefydlu Clwb(iau) Gofal Plant Ôl-Ysgol newydd tra'n sicrhau'r safonau uchaf o ofal a chymorth i blant a phobl ifanc.
Description:
Ydych chi'n angerddol am weithio gyda phlant a chreu amgylchedd chwarae cyfoethog?
Rydym yn chwilio am Uwch Weithiwr Chwarae cymwys a phrofiadol i ymuno â'n tîm.
Fel Uwch Weithiwr Chwarae, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn natblygiad a sefydlu Clwb(iau) Gofal Plant Ôl-Ysgol newydd tra'n sicrhau'r safonau uchaf o ofal a chymorth i blant a phobl ifanc.
Gall y rôl fod yn llawn amser (37.5 awr yr wythnos) neu'n rhan amser (22.5 awr yr wythnos), gan gynnig hyblygrwydd i weddu i'ch anghenion.
Teitl y Swydd: Uwch Weithiwr Chwarae
Lleoliad: Marchnad Casnewydd, Ysgol Bro Teyrnon, Ysgol Ifor Hael
Oriau: Llawn amser (37.5 awr) neu Rhan amser (22.5 awr)
Tâl: £24,500 - 25,500 pro rata
Cytundeb: 12 Mis. Estyniad yn bosibl (yn ddibynnol ar gyllid)
Dyddiad Cau: Hanner nos 15/06/25
Pwrpas y Swydd:
- Datblygu a sefydlu Clwb/Clybiau Gofal Plant All-Ysgol newydd.
- Cefnogi clybiau newydd a phresennol a’u helpu i ddatblygu safonau ansawdd, gan gynnwys cefnogaeth ac anogaeth i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
- Datblygu a chynnal amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol.
- Goruchwylio cynllunio ar gyfer chwarae plant a phobl ifanc.
- Goruchwylio systemau rheoli risgiau a manteision yn effeithiol.
- Cydlynu cydymffurfiad â’r rheoliadau ar ofal dydd, gan gyfeirio at y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau gofal dydd o ran y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.
Prif Ddyletswyddau
Plant
- Sicrhau bod amgylchedd chwarae cyfoethog, effeithiol, hyblyg ac ysgogol, lle y gall plant chwarae’n rhydd, yn cael ei ddarparu.
- Cydlynu a sicrhau casglu plant o'r ysgol/ion.
- Goruchwylio cynllunio a pharatoi’r gweithgareddau chwarae, a pharatoi’r ardal chwarae a’r adnoddau, a fydd yn diwallu eu hanghenion chwarae unigol.
- Meithrin perthnasoedd effeithiol ac onest â phlant a phobl ifanc, a’u rhieni/gofalwyr.
- Sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cynnal lle bo’n briodol, gan gynnwys ymgymryd ag asesiadau risgiau a manteision ar chwarae plant a phobl ifanc a chefnogi staff yn y broses hon.
- Creu cysylltiadau â’r gymuned ehangach er mwyn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i blant a phobl ifanc a chefnogi’r ddealltwriaeth o hawl plant i chwarae.
- Dilyn y canllawiau a gweithdrefnau Diogelu fel yr argymhellir gan yr awdurdod cofrestru.
- Dilyn ac adolygu polisïau a gweithdrefnau’r Clwb, gan gynnwys diogelu, iechyd a diogelwch, ymddygiad, gweithdrefnau brys, a chyfrinachedd fel y cymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru.
- Sicrhau bod staff yn dilyn ac yn ymgysylltu â’r polisïau a’r gweithdrefnau, a’r broses o’u hadolygu.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu goruchwylio’n briodol drwy gydol y sesiynau.
- Rhoi Cymorth Cyntaf fel y bo’n briodol.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu casglu gan rieni/gofalwyr gan weithio’n unol â’r canllawiau polisi.
- Sicrhau bod dewis da o fwyd a diod ar gael yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau.
- Unrhyw ddyletswydd arall perthynol i’r swydd ar gais y pwyllgor/perchennog/rheolwr.
Rheoli Staff
- Rheoli, cydlynu a goruchwylio Gweithwyr Chwarae cyflogedig a di-dâl a myfyrwyr.
- Cydlynu cyfarfodydd tîm.
- Cyd-gysylltu â’r pwyllgor rheoli/rheolwr/perchennog, rhieni, ysgolion ac asiantaethau eraill fel y bo’n briodol.
- Annog rhieni i gymryd rhan a chefnogi pob clwb.
- Annog y gymuned i gymryd rhan a chefnogi pob clwb.
- Adolygu ansawdd y gwasanaeth gyda phlant a rhieni/gofalwyr, a datblygu arferion er mwyn sicrhau cynnydd parhaus (gall hyn gynnwys ymgymryd â chynlluniau sicrwydd ansawdd cydnabyddedig ac arfer adfyfyriol dyddiol).
- Ymgymryd â hyfforddiant i helpu gyda datblygiad personol er mwyn cyflawni ei rôl ei hun, gan gynnwys: Gwaith Chwarae, - Cymorth Cyntaf, Diogelwch Bwyd Sylfaenol, Diogelu a Hawliau Plant, Rheoli Staff, Goruchwylio ac Arfarnu, Anghenion Dysgu - Ychwanegol, Anghenion Addysgol Arbennig, Iechyd a Diogelwch, Swyddog Tân.
- Ymgymryd â goruchwylio ac arfarnu’r tîm staffio.
Gweinyddiaeth
- Cynnal gweinyddiaeth o ddydd i ddydd, cadw cofnodion, archebu a phrynu deunyddiau a chyfarpar.
- Cadw cofnodion, cofrestrau ac adroddiadau priodol i sicrhau bod gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol yn cael eu bodloni.
- Sicrhau bod cofnodion a systemau’n cael eu cynnal yn ôl penderfyniad y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr.
- Bod yn gyfrifol am weinyddiaeth y Clwb o ddydd i ddydd.
- Bod yn gyfrifol am gasglu ac ymdrin â ffioedd yn ddiogel.
- Gweithio o fewn cyllidebau y cytunwyd arnynt, yn ôl yr hyn yr argymhellir gan y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr.
- Mynychu cyfarfodydd mewnol ac allanol yn ôl yr angen, i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu a’i ddatblygu yn llwyddiannus.
- Trefnu a chynnal gweithgareddau codi arian amrywiol o dan gyfarwyddyd y pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr.
Cyfreithiol
- Sicrhau bod pob agwedd ar ddarparu’r gwasanaeth yn bodloni gofynion y ddeddfwriaeth berthnasol, e.e. Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd 2010.
- Ymgymryd â’r gofynion i gydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir 2011.
- Sicrhau bod pob gweithgaredd yn cael ei weithredu yn unol â’r ddeddfwriaeth ar gyfle cyfartal, a’r holl bolisi fel y cytunwyd arnynt gan y Person Cofrestredig/Person Cyfrifol a’r pwyllgor rheoli/perchennog/rheolwr lle bo’n berthnasol.
- Gweithredu’n unol â’ch cyfrifoldebau personol fel cyflogai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
- Mynychu hyfforddiant mewn DPP er mwyn ateb y gofynion cyfreithiol.
Mae’r disgrifiad swydd hwn yn berthnasol ar hyn o bryd, a bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd fel rhan o’r Adolygiad Datblygiad a Pherfformiad, a gall fod yn destun amrywiadau eraill. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ymgymryd â thasgau eraill y gellir eu rhoi’n rhesymol i chi o bryd i’w gilydd.
Manyleb Person: Uwch Weithiwr Chwarae
Hanfodol
- Meddu ar gymhwyster perthnasol fel y’i diffinnir gan yr awdurdod sy’n cofrestru (AGC).
- Cymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 3 neu gymhwyster Lefel 3 Gofal Plant ac yn hapus i weithio tuag at gymhwyster Gwaith Chwarae.
- Bod â gwiriad dilys, manylach y GDG.
- Profiad o weithio gyda phlant oed ysgol gynradd [4–11 oed].
- Profiad o oruchwylio staff neu wirfoddolwyr.
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddarparu Gofal Plant i blant oed ysgol.
- Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o unigolion a rhanddeiliaid yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.
- Y gallu i gynnal systemau a chofnodion er mwyn sicrhau gweinyddiaeth a rheolaeth ariannol effeithiol y ddarpariaeth.
- Gwybodaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
- Dealltwriaeth o gyfleoedd cyfartal, ac ymrwymiad iddynt.
- Dealltwriaeth o chwarae a datblygiad plant, y gallu i ddiwallu anghenion unigol plant a’r parodrwydd i ymgymryd ag hyfforddiant a’i adnewyddu.
- Arddangos amrywiaeth eang o sgiliau gwaith chwarae ymarferol.
Dymunol
- Tystysgrif Cymorth Cyntaf gyfredol.
- Tystysgrif Diogelwch Bwyd Sylfaenol gyfredol.
- Y gallu i gyfathrebu drwy amryw o wahanol ieithoedd e.e. Wrdw, iaith arwyddion a.y.b.
- Sgiliau Llythrennedd Digidol neu barodrwydd i hyfforddi a datblygu.
Am fwy o wybodaeth neu i geisio cysylltwch â post@mentercasnewydd.cymru neu 07809 731 578
Downloads / Forms and useful documents:
Ffurflen Gais Uwch Swydd Clwb
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Uwch Weithiwr Chwarae
Contact Uwch Weithiwr Chwarae