This job advert has expired
Translator
Translator
Overview:
Dyma gyfle am gyfieithydd i ddarparu gwasanaeth cyfieithu i staff ac i'r gwahanol adrannau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd modd i ddeiliad y swydd weithio o gartref gydag un diwrnod y mis yn y swyddfa.
Description:
Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu dogfennau o'r Saesneg i'r Gymraeg a hefyd o'r Gymraeg i'r Saesneg o bryd i'w gilydd. Yn ogystal, bydd gofyn i ddeiliad y swydd gynorthwyo'r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu i gyhoeddi deunydd yn y Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.
Bydd y rôl hon yn cyfrannu at sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â rheoliadau Mesur y Gymraeg (2011), a thrwy wneud hynny bydd yn sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog yn cael eu cynnig i gleifion yn ardaloedd Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Bydd deiliad y swydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth Cymraeg cynhwysfawr, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Safonau'r Gymraeg.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr gwasanaethau i wella gwasanaethau a sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog yn holl fusnes y Bwrdd Iechyd.
Prif ddyletswyddau'r swydd
Darparu gwasanaeth cyfieithu ysgrifenedig o'r Saesneg i'r Gymraeg ac o'r Gymraeg i'r Saesneg. Bydd hyn yn cynnwys cyfieithu'r canlynol:Deunydd gofal iechyd fel taflenni gwybodaeth i gleifion, llythyrau i gleifion a chyfarwyddiadau meddygol o wahanol feysydd, o Ffisiotherapi i Faeth;
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Swydd ddisgrifiad
Translator
Contact Translator