This job advert has expired
Tiwtoriaid Cysylltiol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
Tiwtoriaid Cysylltiol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
Overview:
Dyma gyfle i Diwtor ymuno â thîm Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe (DCABA) sy’n darparu gwersi Cymraeg i oedolion yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Description:
Bydd disgwyl i Diwtoriaid Cysylltiol DCABA:
- addysgu ar ystod o gyrsiau a lefelau o fewn rhaglen DCABA gan ddod i gytundeb ynghylch y nifer o gyrsiau i ymgymryd â nhw mewn blwyddyn (yn unol â gofynion DCABA a dyheadau’r unigolyn);
- gweithio i wella’n barhaus y profiadau a gynigir i ddysgwyr, gan baratoi’n drylwyr at wersi er mwyn gwneud y profiad o ddysgu yn hwylus a hwyliog ble gall dysgwyr fwynhau a gwerthfawrogi eu cynnydd a gwireddu eu potensial;
- darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i ddysgwyr a darpar-ddysgwyr a’u cyfeirio at adnoddau a ffynonellau priodol, ynghyd â’u hannog a’u cynghori ar lwybrau dilyniant addas;
- annog a chefnogi dysgwyr i sefyll arholiadau Cymraeg i Oedolion (CBAC), gan ymateb i’w hanghenion a’u cynorthwyo i sefyll arholiadau yn hyderus;
- cydweithio’n adeiladol a rhagweithiol gyda swyddogion arweiniol a holl weithlu DCABA wrth ddatblygu a darparu rhaglen o’r ansawdd uchaf posib, gan gyd-ysgwyddo’r cyfrifoldeb o gyrraedd targedau cwblhau blynyddol a chyfraddau dilyniant uchel;
- cymryd cyfrifoldeb personol yng nghyd-destun gwella ansawdd y ddarpariaeth, gan gynnwys adfyfyrio, dadansoddi a gweithredu ar adborth;
- cael parodrwydd i ymroi’n gadarnhaol i fforymau addysgeg tiwtoriaid, ac i brosesau arsylwi cymheiriaid a Chynlluniau Datblygu Perfformiad Proffesiynol;
- manteisio ar gyflëoedd hyfforddiant ac i ddatblygu sgiliau (Telir lwfans ar gyfradd penodol pan fynychirsesiynau hyfforddiant swyddogol a drefnir);
- gweithio yn unol â chôd ymddygiad DCABA a gweithredu yn unol â pholisïau sefydliadol a chanllawiau i staff y Brifysgol, gan gynnwys cwblhau ei chyrsiau hyfforddiant statudol i staff.
Bydd hefyd disgwyl i Diwtoriaid Cysylltiol DCABA:
i. paratoi a chynllunio gwersi/sesiynau yn drylwyr
ii. gwirio negeseuon a chyfathrebiadau yn gyson ac ymateb iddynt yn briodol ac yn amserol, a chydymffurfio â gweithdrefnau gweinyddol a therfynau amser;
iii. meithrin perthynas adeiladol a chreu awyrgylch cefnogol, a bod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau presenoldeb llawn a chyson yn y dosbarthiadau;
iv. i fod yn ystyriol o agweddau yn ymwneud â Iechyd a Diogelwch ym mhob gweithgaredd ynghyd â gweithdrefnau Diogelu
v. hyrwyddo a chefnogi’n ymarferol raglen Cefnogi Dysgwyr DCABA, a mynychu – yn ôl y galw –ddigwyddiadau mewnol a chyhoeddus a drefnir gan DCABA;
vi. cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio dysgwyr drwy gefnogi’n ymarferol ymgyrchoedd marchnata DCABA, a bod yn gyfrwng i drosglwyddo gwybodaeth a negeseuon yn ôl yr angen;
vii. sicrhau bod dysgwyr yn cael pob cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, a’u bod yn dod i deimlo’n rhan allweddol o’r gymuned Gymraeg ehangach
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Tiwtoriaid Cysylltiol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe
Contact Tiwtoriaid Cysylltiol Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe