This job advert has expired

Tiwtoriaid Cymraeg (Cyfnod Penodol)

Tiwtoriaid Cymraeg (Cyfnod Penodol)

Overview:

Rydym yn chwilio am diwtoriaid i ddysgu dosbarthiadau dydd a nos i ddechreuwyr ym mis Medi 2025, mewn lleoliadau cymunedol yng Ngwynedd, Môn a Chonwy, ac yn rhithiol drwy gyfrwng Zoom.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Employers Name: Prifysgol Bangor
Salary: £27.69 yr awr (tâl gwyliau ac amser paratoi yn gynwysedig)
Closing Date: 31/03/2025
Closing Time: 13:00:00
Contact Name: Sian Lewis
Phone: 01248 382829
Location: Lleoliadau amrywiol o fewn siroedd Conwy, Gwynedd a Môn
Description:

1. Gwybodaeth:  
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin (DCGO), Prifysgol Bangor yn gyfrifol am ddysgu Cymraeg i oedolion ar draws Wynedd, Môn a Chonwy ar ran Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae 25 aelod llawn amser o staff a thros 60 o diwtoriaid cyfnod penodol (tâl wrth yr awr). 

2. Dyletswyddau cyffredinol (blwyddyn 1): 
Addysgu dosbarth(iadau) Cymraeg, wyneb yn wyneb a/neu’n rhithiol; 
Cwblhau gwaith gweinyddol sy’n ymwneud â’r swydd, e.e. cynllunio a pharatoi gwersi, marcio gwaith cartref, cadw cofrestr ar-lein, e-bost; 
Cefnogi’r dysgwyr gan rannu gwybodaeth am gyfleoedd i ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg; 
Cwblhau’r cymhwyster ‘Dechrau Dysgu: Tystysgrif lefel 4 CBAC i diwtoriaid Cymraeg’ yn llwyddiannus; 
Cwblhau hyfforddiant anwytho Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin; 
Mynychu fforymau ardal (h.y. cyfarfodydd tîm) unwaith y tymor. 
 
3. Sgiliau 
Hanfodol: 
Addysg hyd at lefel TGAU; 
Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig; 
Brwdfrydedd am y Gymraeg ac am gefnogi siaradwyr newydd; 
Sgiliau cyfathrebu da, ar lafar ac yn ysgrifenedig;  
Sgiliau rhyngbersonol da a’r gallu i gydweithio’n effeithiol â phobl eraill; 
Y gallu i weithio’n drefnus gan flaengynllunio a gweithio i derfynau amser; 
Sgiliau TG da; 
Chwaraewr tîm sydd hefyd â’r gallu i weithio’n annibynnol. 

Dymunol: 
Addysg hyd at lefel A; 
Gallu mewn ieithoedd eraill; 
Profiad ym maes Cymraeg i oedolion; 
Profiad o fyd addysg/hyfforddi; 
Sgiliau TG rhagorol ar gyfer dysgu rhithiol; 
Trwydded yrru. 


Cyfweliadau 
Cynhelir cyfweliadau yn ystod wythnos 07/04/25 

Am fwy o fanylion a gwybodaeth sut i wneud cais, darllenwch y dogfennau isod.  

Additional Information:

Additional job information can be found below

Use the documents below to apply for the job advert

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Gweithio fel tiwtor Cymraeg

Ffurflen Gais

Hysbyseb Swydd

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

More

SEE ALL

Swyddog Cefnogi Gweithredol Gorwel

Receptionist

Uwch Swyddog Adnoddau Dynol