This job advert has expired
Tiwtor (Iechyd)
Tiwtor (Iechyd)
Overview:
Nod Nant Gwrtheyrn yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, darparu cyflogaeth leol ac ysbrydoli pobl i ddod at ei gilydd, gan ddarganfod cysylltiadau â’r iaith Gymraeg, byd natur a’r tymhorau a all siapio bywyd i’r dyfodol.
Mae Nant Gwrtheyrn yn chwilio am diwtor brwdfrydig i ymuno gyda'r tîm. Pwrpas y swydd hon yw darparu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n gweithio yn y sector iechyd ddod i Nant Gwrtheyrn i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Bydd y cyfleoedd yn digwydd yn bennaf o fewn ffrwd ddysgu Cymraeg Gwaith y Nant ac yn gyfle i’r tiwtor ddatblygu arbenigedd gyda dysgwyr o fewn y sector iechyd yn benodol. Mae datblygu sgiliau iaith yn y sector yma yn holl bwysig o safbwynt cefnogi’r byrddau iechyd i fedru darparu’r Cynnig Rhagweithiol yn effeithiol.
Description:
Bydd y prif gyfrifoldebau yn cynnwys:
· Magu perthynas agos gyda’r byrddau iechyd er mwyn hwyluso mynediad eu dysgwyr at wasanaethau Nant Gwrtheyrn
· Tiwtora ar gyrsiau preswyl a rhithiol Cymraeg Gwaith Nant Gwrtheyrn – o lefel Sylfaen hyd at lefel Gloywi gyda chefnogaeth uwch diwtoriaid
· Darparu cyngor ac arweiniad wrth ddelio gydag ymholiadau gan ddarpar ddysgwyr o’r sector iechyd
· Cynnig gwasanaeth ôl ofal i ddysgwyr o’r sector iechyd
· Cefnogi dysgwyr (sector iechyd) ar lefel 1:1 yn achlysurol ac yn ôl y galw
· Cyfrannu at y broses gynllunio rhaglen mewn modd rhagweithiol
· Paratoi deunydd ategol / ychwanegol i helpu i gyflwyno gwersi bywiog, dyfeisgar a chynhwysol.
· Bugeilio’r dosbarthiadau cyn, yn ystod ac ar ôl cwrs, gan ddarparu anogaeth, cefnogaeth a chyngor ymarferol sy’n cyfrannu at ddarparu profiad effeithiol, gwerthfawr a chynhwysol i’n dysgwyr
· Mynychu cyfarfodydd rheolaidd yr Adran Addysg ac unrhyw gyfarfodydd eraill perthnasol i’r swydd yn ôl y galw.
· Mynychu cyfarfodydd perthnasol gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ar faterion perthnasol
· Cynorthwyo gyda thasgau gweinyddol cysylltiedig
· Darparu cyngor arbenigol i ddysgwyr sy’n ansicr ynghylch eu lefel bresennol gan ddarparu cyngor doeth ac adeiladol
· Ymgymryd â hyfforddiant yn ôl y galw
· Gweithio mewn modd cyfrinachol ar bob adeg ac o fewn rheolau’r Ddeddf Gwarchod Data
· Unrhyw waith rhesymol arall.
Am fwy o wybodaeth a manyleb person, cysylltwch gyda Siwan Tomos ar siwan.tomos@nantgwrtheyrn.org neu ar 01758 719573.
Gallwch ymgeisio drwy anfon CV a llythyr cais at Siwan Tomos ar siwan.tomos@nantgwrtheyrn.org
Additional Information:
Use the contact information above to contact us for more information
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Tiwtor (Iechyd)
Contact Tiwtor (Iechyd)