This job advert has expired
Swyddog Ynni Cartref (Byw'n hirach nid oerach)
Swyddog Ynni Cartref (Byw'n hirach nid oerach)
Overview:
Cyfeirnod: CAN003
Cytundeb penodol hyd at 31.03.26
Mae rôl y Swyddog Ynni Cartref yn un o ddeuddeg ar draws Cymru, wedi'i leoli a'i reoli'n lleol ym mhob Asiantaeth Gofal a Thrwsio, wedi'i chydlynu'n ganolog gan Reolwr y Prosiect, Byw yn hirach nid oerach yn Care & Repair Cymru.
Description:
Diben y Swydd:
Mae rôl y Swyddog Ynni Cartref yn un o ddeuddeg ar draws Cymru, wedi'i leoli a'i reoli'n lleol ym mhob Asiantaeth Gofal a Thrwsio, wedi'i chydlynu'n ganolog gan Reolwr y Prosiect, Byw yn hirach nid oerach yn Care & Repair Cymru.
Bydd y Swyddog Ynni Cartref yn darparu gwasanaeth gwaith achos cynhwysfawr ac arbenigol, ymgynghorol a chymorth i bobl hŷn sydd mewn tlodi tanwydd neu mewn risg o hynny, neu sydd angen gwella effeithiolrwydd ynni eu cartref i liniaru’r oerfel.
Bydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth gwaith achos arbenigol ymweld â chartrefi. Bydd y gwasanaeth yn holistig, yn ymateb i broblem ac wedi ei deilwra i anghenion yr unigolyn. Bydd y pwyslais ar ostwng defnydd ynni domestig, gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi a chynyddu incwm aelwydydd. Hefyd bydd cydweithio agos gyda Gweithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio ac eraill yn yr Asiantaeth er mwyn trafod problemau tai eraill a materion o bryder i’r unigolyn sy’n
effeithio ar eu tlodi tanwydd, eu hiechyd a’u diogelwch, a’u lles.
Caiff cleientiaid eu hatgyweirio o nifer o ffynonellau – yn uniongyrchol drwy farchnata a chyhoeddusrwydd ar gyfer Byw’n hirach nid oerach, atgyweirio mewnol gan Weithwyr Achos a Swyddogion Technegol Gofal a Thrwsio lle mae cleientiaid angen cefnogaeth arbenigol gydag effeithiolrwydd ynni a thlodi tanwydd a chan ystod o bartneriaid atgyweirio a ddatblygwyd fel rhan o brosiect ehangach Byw’n hirach nid oerach.
Bydd y Swyddog Ynni Cartref hefyd yn atgyfeirio cleientiaid ar gyfer gwasanaethau ehangach Gofal a Thrwsio fel sy’n berthnasol lle maent hefyd angen help gyda gwaith trwsio, cynnal a chadw, atal syrthio a/neu addasiadau, felly beth bynnag y llwybr ar gyfery cleient, byddant yn derbyn gwasanaeth cynhwysfawr Gofal a Thrwsio
CYFEIRNOD SWYDD: GC653-00
Cytundeb Penodol am 2 flynedd
Mae Canllaw yn is-gwmni i Grŵp Cynefin sy’n rheoli asiantaeth Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn.
Nod Canllaw yw “galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau”. Rydym yn fenter gymdeithasol sy’n gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, gan ddarparu gwasanaethau tai mewn ymateb i anghenion pobl hŷn neu bobl fregus lleol. Mae ein gwasanaethau yn cynnwys:
Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn – Gwasanaeth rhad ac am ddim i bobl 60 oed a drosodd i’w cynghori a chefnogi i gynnal, gwella neu addasu eu cartrefi. Yn benodol yn y sector breifat, ac wedi ei ariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru.
Canllaw Addasu - Gwasanaeth masnachol o gynnal addasiadau priodol yng nghartrefi pobl hŷn neu bobl fregus, er mwyn iddynt gynnal eu hannibyniaeth.
Canllaw Technegol - Gwasanaeth proffesiynol o ddylunio, cynllunio, archwilio a goruchwylio gwaith adeiladu, boed gwaith mawr neu fach. Yn gwasanaethu cleientiaid sy’n bobl hŷn neu bobl fregus.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg ar Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
PRIF GYFRIFOLDEBAU
Darparu Gwasanaeth Lleol
• Cynllunio llwyth gwaith ac ymweliadau a sicrhau y cânt eu cwblhau yn effeithiol.
• Ymweld â phobl hŷn ac anabl yn eu cartrefi, asesu eu hamodau byw, gwrando ar bryderon am ddefnydd ynni, cost biliau tanwydd, effeithiolrwydd ynni a materion tai cysylltiedig.
• Trafod opsiynau i ostwng defnydd ynni, gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi, cynyddu incwm aelwydydd a darparu’r atgyweiriadau tai, gwelliannau, diogelwch ac addasiadau angenrheidiol. Cytuno ar gamau gweithredu pwrpasol ar gyfer y dyfodol gyda’r cleient
• Ymchwilio’r holl grantiau a ffynonellau cyllid dyngarol ac effeithiolrwydd ynni lleol a chenedlaethol a all fod ar gael ar gyfer cleientiaid, gwneud atgyfeiriadau atynt a sicrhau y caiff pob ffynhonnell berthnasol ei hawlio, yn cynnwys budd-daliadau lles, taliadau tanwydd gaeaf, taliadau tywydd oer a chynllun gostyngiad cartrefi cynnes.
• Datblygu gwybodaeth arbenigol o raglen newydd Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru a llwybrau lleol i gyllid ECO4/ECO flex, gan sicrhau fod cleientiaid Gofal a Thrwsio yn cael cymaint o fynediad at y ddwy raglen hon ag sydd modd.
• Dynodi, yn ystod yr ymweliad cartref, anghenion eraill a all fod gan gleientiaid, a rhoi cyngor a chymorth ar yr opsiynau tai eraill a phecynnau cymorth Gofal a Thrwsio, ac unrhyw help arall sydd ar gael, gwneud atgyfeiriadau ac yn gyffredinol weithredu fel eiriolydd ar ran cleientiaid.
• Cynghori’r cleient ar yr opsiynau cyllid sydd ar gael i’w galluogi i ddatrys gwaith atgyweirio a chynnal a chadw posibl a’u cynorthwyo i gael yr help maent ei angen.
• Cefnogi cleientiaid i gael amcangyfrifon gan gontractwyr dibynadwy lle’n briodol.
• Cydlynu gyda syrfewyr Gofal a Thrwsio i sicrhau fod y cleient yn derbyn cymorth technegol lle mae angen fydd yn cynnwys trefnu arolygon, cael amcangyfrifon gan gontractwyr dibynadwy, trefnu monitro gwaith ar safle a sicrhau cwblhad boddhaol.
• Cyflwyno sgyrsiau, sesiynau hyfforddi a chyflwyniadau i grwpiau lleol ar ymwybyddiaeth ynni ac effeithiolrwydd ynni.
• Sicrhau y cedwir cofnodion manwl o bob achos, yn arbennig ar gronfa ddata Gofal a Thrwsio a defnyddio adroddiadau o hyn i sicrhau y caiff gwaith ei fonitro.
• Datblygu arbenigedd yng nghyswllt tlodi tanwydd ac effeithiolrwydd ynni cartrefi a chyfrannu at ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth Tîm Gwaith Achos a Thechnegol yr asiantaeth.
• Sefydlu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chynrychiolwyr cyrff statudol priodol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau lleol, gan gynrychioli’r asiantaeth mewn cyfarfodydd lle bo angen.
• Sefydlu presenoldeb Gofal a Thrwsio ar rwydweithiau tlodi tanwydd ac effeithiolrwydd ynni lleol a/neu ranbarthol, a datblygu cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol perthnasol, mudiadau lleol ac awdurdodau lleol am wasanaeth Byw’n hirach nid oerach.
Darparu Prosiectau Cenedlaethol
• Gweithio i Reolwr Prosiect Byw’n hirach nid oerach ar faterion yn ymwneud â
darparu, cysondeb, adrodd a gwerthuso’r prosiect cenedlaethol.
• Cyfrifol am helpu i ddarparu prosiect Byw’n hirach nid oerach Cymru-gyfan i ostwng tlodi tanwydd a chynyddu effeithiolrwydd ynni tai y mae pobl hŷn yn byw ynddynt.
• Cyfrannu at gyfnewid gwybodaeth, profiad a gwerthuso Byw’n hirach nid oerach i sicrhau dull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer arfer gorau, yn cynnwys dulliau yn seiliedig ar newid ymddygiad a thechnegol, wrth fynd i’r afael â thlodi
tanwydd a gwella effeithiolrwydd ynni cartrefi pobl hŷn.
• Mynychu cyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd (drwy gynadledda fideo neu wyneb yn wyneb fel sy’n briodol yng Nghaerdydd, y Canolbarth a/neu y Gogledd), cymryd rhan mewn tele-gynadleddau ac ymateb i geisiadau am wybodaeth gan Care &
Repair Cymru.
• Cynnal gwiriadau cartrefi iach, monitro materion eraill mewn cartrefi, cynnal arolygon cleientiaid ac asesiadau effaith a ddefnyddir gan y prosiect Byw’n hirach nid oerach, a rhoi’r data a gasglwyd ar gronfa ddata Gofal a Thrwsio.
Dyletswyddau cyffredinol
• Sicrhau cyhoeddusrwydd i wasanaeth Byw’n hirach nid oerach drwy ddosbarthu taflenni, sylw yn y cyfryngau lleol a dulliau eraill o hyrwyddo e.e. sgyrsiau, sesiynau hyfforddi, cyflwyniadau a grwpiau cymorth lleol.
• Cefnogi’r Asiantaeth Gofal a Thrwsio i dyfu ei harfer gorau mewn tlodi tanwydd, effeithiolrwydd ynni cartref a chyngor, a bod cleientiaid yn derbyn gwasanaeth o safon uchel.
• Dod yn bencampwr arfer da mewn effeithiolrwydd ynni cartrefi a rhannu arfer gorau a ddynodwyd drwy brosiect cenedlaethol Byw’n hirach nid oerach.
• Ymgymryd â phob dyletswydd yn unol â pholisïau yr Asiantaeth Gofal a Thrwsio ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch, Cyfrinachedd a Diogelu Data a sicrhau y cydymffurfir â nhw.
• Sicrhau bod eich gwybodaeth am datblygiadau yn y meysydd gwaith cysylltiedig yn gyfredol, darllen y deunydd perthnasol a ddarperir a mynychu cyrsiau, seminarau a chynadleddau.
• Cymryd rhan mewn cyfarfodydd tîm yn ôl cais Prif Swyddogion yr asiantaeth.
• Sicrhau y caiff amcanion a thargedau personol eu cyflawni.
• Gweithio mewn modd cadarnhaol, cydweithredol a chefnogol bob amser.
• Ymgymryd â phob tasg arall resymol yn gyson gydag amcanion y swydd fel y’u dirprwywyd gan y Prif Swyddog a/neu y rheolwr llinell lleol.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Use the contact information above to contact us for more information
Downloads / Forms and useful documents:
Disgrifiad swydd
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Swyddog Ynni Cartref (Byw'n hirach nid oerach)
Contact Swyddog Ynni Cartref (Byw'n hirach nid oerach)