This job advert has expired

Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro

Swyddog Ti a Fi Teithiol Sir Benfro

Overview:

Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rieni a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o gylchoedd. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal. Disgwylir i’r person a benodir fod a phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. Ar hyn o bryd oherwydd y cyfyngiadau o ganlyniad I’r pandemig, rydym yn cynnal Cylchoedd Ti a Fi tu allan er mwyn cwrdd â mesuriadau diogelu Llywodraeth Cymru.

 

ER GWYBODAETH: Am fwy o oriau, gellir cyfuno’r swydd yma gyda swydd Swyddog Clebran Sir Benfro sydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar wefan Mudiad Meithrin a lleol.cymru

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mudiad Meithrin
Salary: MM9 £19,138 (pro rata)
Closing Date: 11/10/2022
Closing Time: 00:00:00
Contact Name: Heather Davies-Rollinson, Rheolwr Talaith
Location: Location details can be found in the description
Description:

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

 

· Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol o ymweliadau â’r cylchoedd Ti a Fi sydd yn rhan o’r Cynllun

· Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un o’r rhain fod yn Ti a Fi am dro (Oherwydd cyfyngiadau Covid19 mae rhain i gyd tu allan am y tro)

· Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni.

· Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel.

· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi ac er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd sy’n byw yn yr ardaloedd perthnasol.

· Cydweithio â’r Swyddog Cefnogi lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.

· Trefnu bod Penaethiaid yr Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi yn gyson er mwyn trafod gyda’r rhieni manteision dwyieithrwydd ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

· Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog

· Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.

· Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.

· Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Downloads / Forms and useful documents:

Swydd Disgrifiad

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro

Buddion Staff

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW

More

SEE ALL

Information Officer – Contact Centre

Ysgoloriaeth PhD: Addysg Gorfforol

Stakeholder Engagement Adviser, Wales