This job advert has expired

Swyddog Ti a Fi Sir Fflint

Swyddog Ti a Fi Sir Fflint

Overview:

Rhoddir pwyslais gan y Mudiad ar sicrhau bod gan rhieni/gwarchodwyr a phlant ifainc fynediad hwylus i gylchoedd Ti a Fi sy’n agos i’w cartrefi ac sy’n darparu cyfleoedd chwarae a chymdeithasu o ansawdd. Nod y Mudiad yw ceisio sicrhau bod pob cylch Ti a Fi yn cyflogi Arweinydd i fod yn gyfrifol am arwain gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr. Mae hyn eisoes yn digwydd mewn nifer sylweddol o Gylchoedd Ti a Fi. Fodd bynnag mewn ardaloedd lle ceir anhawster recriwtio Arweinyddion parhaol i gylchoedd Ti a Fi, mae’r Mudiad yn chwilio am berson brwdfrydig i arwain gweithgareddau a rhannu negeseuon am ddilyniant i Addysg Gymraeg ar gyfer plant a’u rhieni/gwarchodwyr mewn hyd at 5 cylch Ti a Fi yn yr ardal.  Disgwylir i’r person a benodir fod â phrofiad o arwain gweithgareddau chwarae ar gyfer plant o dan oed ysgol ynghyd â phrofiad o drefnu rhaglen o weithgareddau cefnogol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg ac yn gallu trosglwyddo negeseuon i rieni/gwarchodwyr am werth dwyieithrwydd yn ogystal â phwysigrwydd dilyniant o gylch Ti a Fi i Gylch Meithrin ac ymlaen i addysg cyfrwng Cymraeg. 

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mudiad Meithrin
Salary: MM15 £24,200 (pro rata). Gwir cyflog y swydd yw: £2,784.24
Closing Date: 20/06/2025
Closing Time: 00:00:00
Contact Name: Ceri Edwards, Rheolwr Talaith y Gogledd Ddwyrain
Phone: 01970 639639
Location: Location details can be found in the description
Description:

Bod yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin trwy’r Rheolwr Talaith am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

 

·             Cydweithio â’r Rheolwr Talaith i drefnu amserlen wythnosol i gynnal  cylchoedd Ti a Fi. 

·             Ymgymryd â rôl Arweinydd mewn 2 cylch Ti a Fi yn yr ardal a bennwyd – gall un neu fwy o’r rhain fod yn Gylch Ti a Fi am dro 

·             Dangos hyblygrwydd i weithio’n rhithiol os oes angen.

·             Cynnal sesiwn wythnosol yn y cylchoedd Ti a Fi er mwyn arwain a chynnal gweithgareddau addas ar gyfer y plant a’u rhieni/gwarchodwyr.

·             Sicrhau bod yr ystafelloedd neu’r ardal tu allan a’r adnoddau a ddefnyddir ar gyfer cynnal y cylchoedd yn addas ac yn ddiogel. Cynnal Asesiadau Risg gan ddilyn canllawiau Mudiad Meithrin.

·             Sicrhau cyhoeddusrwydd i’r cylchoedd Ti a Fi trwy gydweithio â’r Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn cynyddu’r defnydd a wneir ohonynt gan deuluoedd. 

·             Ar y cyd a’r Rheolwr Talaith, Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd, Swyddogion Cymraeg i Blant, meithrin perthynas a nifer o bartneriaethau lleol er mwyn hyrwyddo’r gwaith gan gynnwys Mentrau Iaith, Dechrau’n Deg, Ymwelwyr Iechyd, Dewis, Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ayyb. 

·             Cydweithio’n agos â chynlluniau eraill y Mudiad e.e Sefydlu a Symud a Chynllun Cymraeg i Blant, er mwyn sicrhau’r rhaglen orau yn lleol.

·             Codi ymwybyddiaeth o fuddion addysg Gymraeg lleol drwy gynorthwyo i gynnal digwyddiadau ac achlysuron cyhoeddusrwydd e.e. Diwrnodau hwyl i’r teulu.

·             Casglu gwybodaeth fel bo galw ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i  gyllidwr / Mudiad Meithrin.

·             Cydweithio â’r Cydlynyddion Cefnogi Cylchoedd lleol a’r Rheolwr Talaith er mwyn sicrhau cysylltiad agos rhwng y cylchoedd Ti a Fi a chylchoedd meithrin yr ardal.

·             Trefnu bod Arweinydd/staff Cylchoedd Meithrin a chynrychiolydd o’r Ysgolion Cynradd Cymraeg lleol yn ymweld â’r cylchoedd Ti a Fi er mwyn trafod manteision dwyieithrwydd a dilyniant i Addysg Gymraeg gyda’r rhieni ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol i’w plant dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

·             Ar y cyd â’r Rheolwr Talaith trefnu rhaglen o gofrestru pob un o’r cylchoedd yn eu tro ar Gynllun ansawdd Ti a Fi Serennog

·             Mynychu cyfarfodydd tîm, Pwyllgorau Sir ac unrhyw bwyllgor arall perthnasol.

·             Mynychu sesiynau hyfforddiant mewn swydd fel bo’r angen.

·             Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

·             Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

 

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Downloads / Forms and useful documents:

Ffurflen Gais

Disgrifiad Swydd

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Woodland Apprentice

Resourcing Officer

Account Executive