This job advert has expired
People and Culture Officer
People and Culture Officer
Overview:
Mae gan S4C weithlu anhygoel ac ymroddedig o tua 125 o unigolion wedi eu lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac yn gweithio yn hybrid o'u cartrefi.
Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â ni. Yn dilyn cyfnod heriol, yr ydym am sicrhau ffocws ar ein pwrpas a'n blaenoriaethau strategol. Yn ganolog i lwyddiant hyn bydd sicrhau fod gan S4C amgylchedd gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol, sy'n buddsoddi yn ei gweithlu i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol er mwyn perfformio'n dda a fydd yn sicrhau arlwy aml blatfform ardderchog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.
Fel aelod o'r adran Gorfforaethol, bydd y Swyddog Pobl a Diwylliant yn gyfrifol am weithredu nifer o'r newidiadau cyffroes sydd i ddod. Byddwch yn cyfrannu at ddenu, cadw a datblygu gweithlu amrywiol a thalentog, a chreu amgylchedd sy'n caniatáu i bawb sy'n gweithio gyda ni deimlo'n ddiogel a bod y gorau y gallent fod.
Mae hon yn rôl sy'n weladwy ar bob lefel, a bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y sefydliad yn cynnwys ein staff a'u cynrychiolwyr ynghyd â'n partneriaid.
Rydym yn chwilio am Swyddog sydd yn gallu cefnogi'r Rheolwr Adnoddau Dynol a Chyfarwyddwr Pobl a Diwylliant wrth weithredu'r dydd i ddydd ar draws amryw o elfennau sydd yn ymwneud ag Adnoddau Dynol. Bydd angen i chi allu cynghori a rhoi cymorth i staff a rheolwyr wrth ddilyn polisïau mewnol ar amryw o bynciau.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.
Description:
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £33,000 - £35,000 yn unol â phrofiad.
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Hyfforddiant: Cefnogaeth i gwblhau cymhwyster CIPD lefel 5.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mercher 24 Gorffennaf 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 29 Gorffennaf 2024
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Manylion Swydd
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
People and Culture Officer
Contact People and Culture Officer