This job advert has expired

Swyddog Iaith Croesi’r Bont De Ddwyrain Cymru

Swyddog Iaith Croesi’r Bont De Ddwyrain Cymru

Overview:

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau Mudiad Meithrin i arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant y darpariaethau drwy  hyfforddiant iaith a mentora ac yn benodol trwy gyflwyno cynllun Croesi’r Bont sef rhaglen trochi iaith benodol ar gyfer Cylchoedd Meithrin. Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mudiad Meithrin
Salary: MM14 £21,049 pro rata
Closing Date: 01/02/2023
Closing Time: 23:30:00
Contact Name: Lou Stevens Jones, Rheolwr Croesi'r Bont
Phone: 07966 313609
Location: Location details can be found in the description
Description:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
•    Cefnogi a chynorthwyo Cylchoedd Meithrin i sicrhau’r ansawdd ieithyddol orau o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol  Mudiad Meithrin,  ‘Croesi’r Bont’.
•    Darparu gwasanaeth cefnogi’r iaith Gymraeg trwy gynllun trochi Croesi’r Bont yn y gweithle i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach.
•    Trefnu ymweliadau rheolaidd i'r Cylchoedd gan arwain trafodaethau a chyfathrebu’n broffesiynol gydag arweinyddion y Cylchoedd, athrawon / penaethiaid ysgol, rheolwyr a’r oedolion eraill o fewn y lleoliad
•    Datblygu a chytuno ar gynlluniau realistig ar gyfer cynllun Croesi’r Bont gyda’r  staff, gan gymryd i ystyriaeth anghenion y staff, y plant a’r ddarpariaeth yn gyffredinol.
•    Cytuno ar y cyd â staff y Cylch ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o gynllun Croesi’r Bont a throchi iaith gan osod targedau ar gyfer yr ymweliad nesaf. Sicrhau fod yr arweinydd a staff y Cylch yn derbyn adborth teg ac adeiladol a chadarnhad o’r targedau trwy ddarparu adroddiad ffurfiol ar ôl bob ymweliad.
•    Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol  i sicrhau bod y cylchoedd yn ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r Iaith Gymraeg
•    Mewn ymgynghoriad â’r Prif Swyddog, trefnu a chynnal hyfforddiant / gweithdai iaith perthnasol yn dymhorol  o fewn y dalaith/ yn genedlaethol i atgyfnerthu trochi iaith a defnydd cynllun Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin.
•    Hyrwyddo’r defnydd o Dewin a Doti ac adnoddau pellach y Mudiad o fewn ein Cylchoedd Meithrin
•    Datblygu deunyddiau ieithyddol pellach dan arweiniad y Prif swyddog.
•    Cyd weithio’n agos gyda Swyddog Cefnogi’r sir gan rannu gwybodaeth er mwyn sicrhau cysondeb. 
•    Mynychu cyfarfodydd tîm lleol yn ol y galw, a chyfarfod Tîm cenedlaethol unwaith bob tymor.
•    Mynychu cyfarfodydd talaith yn rheolaidd er mwyn adrodd ar waith Croesi’r Bont yn y Cylchoedd Meithrin 
•    Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Use the documents below to apply for the job advert

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW

More

SEE ALL

IT Switchboard and Customer Support Assistant

Business and Systems Support Apprentice

Administrative Officer