This job advert has expired
Swyddog Golygyddol (dwyieithog) (x 2 swydd)
Swyddog Golygyddol (dwyieithog) (x 2 swydd)
Overview:
Cefnogi’r Rheolwr Golygyddol i olygu adnoddau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gwrdd â gofynion dysgwyr ac addysgwyr. Mae’r swydd hon wedi ei phenodi ar gyfer cefnogi ein project Gwneud-i-Gymru.
Description:
Swyddog Golygyddol (dwyieithog)
Cyflog: £34,371.00 - £37,617.00 y flwyddyn (Gradd 7)
Math o Gontract: 2x Llawn-amser, Tymor penodol tan 31 Gorffennaf 2024
Y Rôl:
Cefnogi’r Rheolwr Golygyddol i olygu adnoddau safonol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gwrdd â gofynion dysgwyr ac addysgwyr. Mae’r swydd hon wedi ei phenodi ar gyfer cefnogi ein project Gwneud-i-Gymru.
Yr unigolyn:
I ffynnu yn y rôl hon, byddwch chi’n drefnus ac yn gallu talu sylw i’r manylion wrth weithio ar sawl tasg ar unwaith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus yn gweithio ar ei liwt ei hun, ond hefyd yr un mor hyderus yn gweithio gydag eraill i gefnogi projectau tîm. Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Ein buddion:
Yn CBAC, rydym yn falch o fod yn lle cynhwysol a chefnogol i weithio. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ardderchog, gan gynnwys: 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (yn ogystal ag 16 o wyliau statudol / ychwanegol), gwersi Cymraeg am ddim, cynllun pensiwn cystadleuol a nifer o bolisïau sy'n ystyriol o deuluoedd.
Mae'r rôl hon yn swydd hybrid, sy'n galluogi'r ymgeisydd llwyddiannus i rannu ei amser rhwng swyddfeydd CBAC a gweithio gartref, yn amodol ar ddewis personol ac angen busnes.
Os hoffech wybod mwy am y swydd neu am weithio i CBAC, cysylltwch ag AD@cbac.co.uk. Bydd y tîm yn fwy na pharod i gael sgwrs.
Ewch i'n gwefan i lwytho copi o'r disgrifiad swydd a ffurflen gais i lawr.
Disgwylir cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 02 Medi 2024.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Disgrifiad Swydd
Swyddog Golygyddol (dwyieithog) (x 2 swydd)
Contact Swyddog Golygyddol (dwyieithog) (x 2 swydd)