This job advert has expired
Swyddog Datblygu
Swyddog Datblygu
Overview:
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal Brycheiniog a Maesyfed. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a gwerthuso gweithgareddau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff mewnol ac allanol.
Description:
Swyddog Datblygu Menter Brycheiniog a Maesyfed
£27,269 i £28,624 y flwyddyn
37 awr, Cyfnod penodol tan 31/03/2026 (yn y lle cyntaf)
Lleoliad/Canolfan Waith: Yw drafod
Mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon
Dyddiad cau: 28/04/2025
Am y rôl:
Y mae Menter Brycheiniog a Maesyfed yn wasanaeth sy’n bodoli i hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac sydd a’r nod o gyfrannu at gynnal y defnydd o’r Gymraeg yn gymunedol, cefnogi rhwydweithiau cymdeithasol y Gymraeg a chynyddu statws y Gymraeg ym mhob sector.
Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardal Brycheiniog a Maesyfed. Bydd yn gyfrifol am gynllunio, cynnal a gwerthuso gweithgareddau amrywiol ar gyfer plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff mewnol ac allanol.
Amdanoch chi:
Profiad:
• Profiad o waith datblygu cymunedol neu waith plant / ieuenctid
• Rheoli prosiect
• Trefnu digwyddiadau
• Rheoli cyllideb
• Profiad o gynllunio ieithyddol
Eich dyletswyddau:
1. Arwain rhaglen waith ieuenctid Menter Brycheiniog a Maesyfed er mwyn cynyddu’r cyfleoedd iaith Gymraeg i bobl ifanc yn Ne Powys. Yn gyfrifol am gynllunio a datblygu’r rhaglen hyd at flwyddyn o flaen llaw er mwyn cyrraedd y nifer gorau posib. Trefnu rhaglen waith wythnosol a misol eu hun.
2. Codi proffil yr Iaith Gymraeg yn ne Powys a hybu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws meysydd gwaith Plant a Phobl Ifanc, Teuluoedd a Chymunedau drwy ystyried gwaith ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud yn y maes ac ymchwilio ymhellach i’r anghenion yn ôl gweithgareddau, lleoliadau, deunyddiau, a phlant ail-iaith. Ymgysylltu a chadw cyswllt ag ysgolion a gosodiadau gwaith ieuenctid er mwyn trefnu a chynnal sesiynau rheolaidd.
3. Cynllunio a darparu gweithgareddau amrywiol o fewn y sir gan sicrhau dosraniad teg o ran math o weithgaredd, oed y defnyddiwr, lleoliadau amrywiol a daearyddiaeth y sir, a marchnata’r gweithgareddau yma mewn modd addas.
4. Rheoli cyllid Plant a Phobl Ifanc er mwyn sicrhau darpariaeth deg a gwerth arian ar draw De Powys. Chwilio a cheisio cyllid ychwanegol lle’n bosib i ehangu potensial y rhaglen waith ieuenctid.
5. Cydlynu, hyrwyddo a datblygu gwasanaethau Cymraeg i blant, ieuenctid ac oedolion mewn cyd-destun mwy eang mewn cydweithrediad â mudiadau eraill.
6. Casglu tystiolaeth am weithgareddau a pharatoi adroddiadau a phapurau yn ôl y gofyn gan gynnwys adroddiadau cynnydd ar gyfer Cyngor Sir Powys a Llywodraeth Cymru o dan bennawd ‘Plant a Phobl Ifanc’.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *