This job advert has expired

Swyddog Datblygu

Swyddog Datblygu

Overview:

Mae Menter Cwm Gwendraeth Elli yn gwmni creadigol, blaengar ac ymatebol, sy’n benderfynol o ddarparu’r gwasanaeth gorau er mwyn mynd I’r afael ag anghenion ac yn gwella potensial yr unigolyn a’r gymuned gan wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.  Mae’r Fenter yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ac egniol er mwyn datblygu’r iaith ar lefel gymunedol yn ardal Cwm Gwendraeth a Llanelli.  Mae hyn yn gyfle euraidd i berson creadigol ddatblygu’r Gymraeg mewn ardal sydd a cymaint o botensial. 

Prif nod y Fenter yw hybu ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol a chyfrannu tuag at adfywiad cymunedol.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Employers Name: Menter Cwm Gwendraeth Elli
Salary: £25,183
Closing Date: 04/04/2025
Closing Time: 12:00:00
Contact Name: Alaw Davies
Phone: 01269 871600
Location: 11-15 Heol Coalbrook, Pontyberem, Pontyberem, Carmarthenshire, Wales, SA15 5HU
Description:

Rol y swyddog bydd:

·        Adnabod cyfleoedd i ddatblygu a hyrwyddo gweithgareddau a phrosiectau i gydfynd  a nodau ac amcanion Menter Cwm Gwendraeth Elli.

·        Adnabod partneriaid a mudiadau lleol y gellir fod yn cydweithio â hwy er mwyn cyrraedd y nod.

·        Meithrin cysylltiadau a datblygu perthynas waith gyda’r gymuned leol.

·        Datblygu sgiliau a hyder siaradwyr Cymraeg a dysgwyr o bob oed.

·        Adnabod ffynonellau cyllid priodol ar gyfer prosiectau a pharatoi ceisiadau am nawdd mewn ymgynghoriad â’r Prif Weithredwr a’r Pwyllgor Rheoli.

·        Trefnu, mynychu a gweinyddu cyfarfodydd amrywiol yn ôl yr angen.

·        Cyd-weithio gyda busnesau yr ardal

·        Recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi gwaith y Fenter

·        Rheoli, gweithredu a monitro prosiectau.

·        Cyflwyno adroddiad rheolaidd ar ddeilliannau prosiectau’r ardal i Brif Weithredwr Menter Cwm Gwendraeth Elli.

·        Hyrwyddo delwedd o’r Gymraeg  a gwasanaethau’r Fenter.

·        Marchnata a hyrwyddo prosiectau’r Fenter yn ei chyfanwaith gan sicrhau cysylltiadau da gyda’r wasg a’r cyfryngau.

·        Cyfrannu at unrhyw agwedd o waith y Fenter yn ôl y galw.

·        Gweithredu yn unol â Deddf Gwlad, Polisïau a Gweithdrefnau Menter Cwm Gwendraeth Elli, yn cynnwys rheoli risg a materion iechyd a diogelwch.

Ymgeisiwch drwy anfon CV  a llythyr cais at y Prif Swyddog - alaw@mcge.org.uk

Additional Information:

Use the contact information above to contact us for more information

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

More

SEE ALL

Operations Administrator

Rheolwr Cynllun Awel y Dyffryn

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da