This job advert has expired
Swyddog Clwb Cwtsh Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Swyddog Clwb Cwtsh Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Overview:
Prif gyfrifoldeb swyddog ‘Clwb Cwtsh’ fydd cydlynu, hyrwyddo, marchnata a chynnal sesiynau wyneb yn wyneb a/neu dros Microsoft ‘Teams’. Cwrs blasu Cymraeg ar lefel cyn-fynediad ydy Clwb Cwtsh. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn ymgyfarwyddo â chynnwys y cwrs (fydd wedi’i baratoi eisoes). Bydd y swyddog yn mynd ati i hyrwyddo a marchnata’r cyrsiau’n lleol drwy gyfrwng taflenni a phosteri (fydd wedi eu darparu iddynt) a thrwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol. Bydd cefnogaeth ganolog ar gael gan y Prif Swyddogion a’r Rheolwr Cynlluniau Dysgu Cymraeg. Y prif waith yn ystod 8 neu 7 wythnos y cwrs fydd cynnal y sesiynau a sicrhau fod y grŵp yn parhau i fynychu gan gynnal ‘Parti Dathlu’ fel y sesiwn grŵp terfynol. Ar ôl hynny, bydd cyfle i werthuso cynnydd a llwyddiant drwy gasglu barn y sawl fu ynghlwm â’r cynllun. Ni ragwelir fod angen cymhwyster tiwtor iaith ond fe fydd hynny’n amlwg yn fanteisiol.
Description:
Dyletswyddau’r Swydd
• Bod yn gyfrifol am drefnu, hyrwyddo ac arwain o leiaf dau gwrs ‘dysgu a defnyddio Cymraeg’ i rieni ac i’r teulu estynedig am gyfnod o 8 neu 7 wythnos yn ystod bob 4 cymal 2024-2025. Darperir y cyrsiau yn y gymuned a trwy Microsoft Teams.
• Trafod union ardaloedd daearyddol ble targedir y ddau (neu fwy) o gyrsiau gyda staff Mudiad Meithrin ar lawr gwlad.
• Sicrhau bod lleiafswm o 12 oedolyn ym mhob cwrs (a mwy os yn bosib).
• Sicrhau y defnyddir deunyddiau ac adnoddau crai'r cwrs thematig yn ystod y sesiynau.
• Creu grŵp ‘WhatsApp’ neu drwy e-bost/tecst i’r swyddog ymgysylltu â’r grŵp rhwng y sesiynau i rannu gair neu frawddeg neu osod tasg syml a hwyliog yn y cartref (un waith yr wythnos) gydag ymwadiadau data priodol.
• Cydweithio gyda Chydlynyddion Cefnogi Cylchoedd Mudiad Meithrin (a’r tîm taleithiol ehangach yn cynnwys swyddogion ‘Cymraeg i Blant’ a ‘Ti a Fi’) er mwyn tynnu ar arbenigedd a gwybodaeth staff o fewn timau taleithiol Mudiad Meithrin.
• Hyrwyddo a marchnata’r cyrsiau’n lleol drwy bob cyfrwng – y wasg, posteri, X (Trydar yn flaenorol), Facebook, Instagram ayyb.
• Sicrhau bod pob cofrestr ar wefan dysgucymraeg.cymru yn gywir a chyfredol.
• Cydweithio a chynnal cyfarfodydd gyda chysylltiadau gyda phartneriaid ‘Cwlwm’, y Mentrau Iaith leol a darparwyr Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol lle bo’n addas i hyrwyddo’r cynllun.
• Mynychu sesiynau anwytho a hyfforddiant.
• Mynychu cyfarfodydd tîm Clwb Cwtsh.
• Unrhyw beth arall yn ôl disgresiwn Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.
• Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Additional job information can be found below
Use the contact information above to contact us for more information
Downloads / Forms and useful documents:
Swydd Ddisgrifiad
Ffurflen Gais
Buddion Staff
Ffurflen Monitro
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Swyddog Clwb Cwtsh Sir Ddinbych a Sir y Fflint
Contact Swyddog Clwb Cwtsh Sir Ddinbych a Sir y Fflint