This job advert has expired
Swyddog Clwb Cwtsh ardal Wrecsam
Swyddog Clwb Cwtsh ardal Wrecsam
Overview:
Y Mudiad: Ry’n ni’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu a thyfu drwy’r Gymraeg, a’n nod yw gweld siaradwyr Cymraeg newydd yn ffynnu. Gwnawn hyn trwy ymgyrchu dros ofal ac addysg Gymraeg, cefnogi ein haelodau a chynllunio’n strategol i greu darpariaethau (Cylchoedd a Meithrinfeydd) newydd. Mae’n holl Gylchoedd a'n Meithrinfeydd Dydd yn cynnig gweithgareddau llawn hwyl i tua 22,000 o blant ifanc bob wythnos. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos iawn gyda rhieni a gofalwyr er mwyn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth iddynt ar ddewis addysg Gymraeg, rhoi’r Gymraeg i’w plant a lle i ddechrau dysgu Cymraeg.
Mae bron i 300 o staff yn rhan o deulu Mudiad Meithrin gyda 2,000 yn gweithio yn lleol yn y Cylchoedd a’r Meithrinfeydd dydd. Ry’n ni eisiau i’r Mudiad fod yn gyflogwr sy’n denu grŵp amrywiol o unigolion talentog i weithio iddo, gan aros a’n hargymell fel cyflogwr da. Rydym yn rhoi ein ffydd yn ein staff ac yn rhoi’r grym a chefnogaeth iddynt wneud eu gorau er lles ein haelodau, ein pobl a’u hunain. Mae adlewyrchu’r cymunedau ry’n ni’n cefnogi yn bwysig i ni felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob cefndir.
Description:
Y swydd a’r person: Prif gyfrifoldeb swyddog ‘Clwb Cwtsh’ fydd cydlynu, hyrwyddo, marchnata a chynnal sesiynau wyneb yn wyneb (neu dros Microsoft ‘Teams’ yn ddibynnol ar oriau gwaith a’r galw am gyrsiau). Cwrs blasu Cymraeg ar lefel cyn-fynediad ydy Clwb Cwtsh. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn ymgyfarwyddo â chynnwys y cwrs (fydd wedi’i baratoi eisoes). Bydd y swyddog yn mynd ati i hyrwyddo a marchnata’r cyrsiau’n lleol drwy gyfrwng taflenni a phosteri (fydd wedi eu darparu iddynt) a thrwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol. Bydd cefnogaeth ganolog ar gael gan y Prif Swyddogion a’r Rheolwr Cynlluniau Dysgu Cymraeg. Y prif waith yn ystod 8 neu 7 wythnos y cwrs fydd cynnal y sesiynau a sicrhau fod y grŵp yn parhau i fynychu gan gynnal ‘Parti Dathlu’ fel y sesiwn grŵp terfynol. Ar ôl hynny, bydd cyfle i werthuso cynnydd a llwyddiant drwy gasglu barn y sawl fu ynghlwm â’r cynllun. Ni ragwelir fod angen cymhwyster tiwtor iaith ond fe fydd hynny’n amlwg yn fanteisiol.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Swyddog Clwb Cwtsh ardal Wrecsam
Contact Swyddog Clwb Cwtsh ardal Wrecsam