This job advert has expired

Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)

Swyddog Clebran Sir y Fflint (Swyddog Iaith i Leoliadau Saesneg Nas Cynhelir)

Overview:

Y swydd a’r person: Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i weithio gyda darpariaethau cyfrwng Saesneg i arwain ar ymestyn a datblygu sgiliau ieithyddol staff a phlant y darpariaethau drwy  hyfforddiant iaith a mentora. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno cynllun Clebran sef rhaglen iaith benodol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg nas cynhelir.  Dylai’r person fod yn frwd dros y Gymraeg, gyda phersonoliaeth sy’n caniatáu iddi/iddo gyfathrebu yn effeithiol ar sawl lefel.  

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mudiad Meithrin
Salary: MM 15 £24,200 – MM20 £27,835 ar sail oriau llawn amser, sef 37.5 awr. Gwir gyflog ar sail gweithio 7.5 awr MM15 £4,176 - MM20 £4,803
Closing Date: 24/03/2025
Closing Time: 13:00:00
Contact Name: Lou Stevens Jones
Phone: 01970 639639
Location: Location details can be found in the description
Description:

Dyletswyddau’r Swydd:

Bydd yn atebol i Brif Weithredwr Mudiad Meithrin drwy Reolwr Cenedlaethol Croesi’r Bont a Clebran am gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

•    Cefnogi a chynorthwyo lleoliadau cyfrwng Saesneg yn rhithiol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth gan ddefnyddio cynllun arloesol Mudiad Meithrin, ‘Clebran’
•    Darparu gwasanaeth rhithiol i gefnogi’r iaith Gymraeg yn y gweithle trwy gynllun ‘Clebran’ i staff sydd angen datblygu eu sgiliau Cymraeg ymhellach
•    Darparu hyfforddiant rhithiol trwy gyflwyno gweithdai dros Microsoft Teams pob hanner tymor
•    Darparu cefnogaeth 1:1 dros Microsoft Teams gyda staff y meithrinfeydd rhwng y gweithdai
•    Ymweld â lleoliadau yn ôl amserlen tymhorol
•    Cytuno ar y cyd â staff y lleoliad ar ddulliau priodol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg 
•    Cynorthwyo a chydweithio â’r awdurdod lleol i gynorthwyo’r lleoliadau i ateb gofynion Estyn o ran datblygu’r iaith Gymraeg
•    Cynnal sgyrsiau rhithiol a /neu wyneb gyda staff y lleoliadau ynglŷn â manteision dwyieithrwydd
•    Datblygu gweithdai thematig ychwanegol dan arweiniad Prif Swyddog a Rheolwr y cynllun
•    Mynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu rhithiol yn ôl y galw
•    Cydweithio’n agos gyda’r timoedd Addysg Blynyddoedd Cynnar yn y siroedd perthnasol er mwyn sicrhau darpariaeth gyson, a darparu adroddiadau monitro tymhorol
•    Ymgymryd ag unrhyw waith arall perthnasol fydd yn hybu sgiliau iaith yr oedolion a’r plant
•    Cyfrannu’n weithredol at hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd o’r gwaith, gan wrthod unrhyw ragfarn, ac ymdrin  ag unrhyw wrthdaro neu ddigwyddiad yn brydlon yn unol â’r Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
•    Unrhyw waith arall perthnasol a chyffredinol i swyddogaeth y Mudiad yn ôl cyfarwyddyd y Prif Weithredwr

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Additional job information can be found below

Use the documents below to apply for the job advert

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Swydd Ddisgrifiad

Ffurflen Gais

Buddion Staff

Ffurflen Monitro

Polisi Diogelu Plant

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Ymchwilydd Heno/Prynhawn Da

Swyddog Cymunedol Chwaraeon, Caerdydd a'r Fro

Pennaeth Casgliadau Unigryw