This job advert has expired
Swyddog Cangen Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Swyddog Cangen Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Overview:
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, hunan-gymhellol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n rhoisylw i fanylion. Mae'r gallu i ddatblygu perthynas waith rhagorol gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol agyda'n rhanddeiliaid allanol hefyd yn hollbwysig.
Description:
Swyddog Cangen Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Cyfnod Mamolaeth)
Cyflog cychwynnol £40,497 - £46,735 y flwyddyn (pro rata)
Mae Prifysgol De Cymru yn awyddus i benodi Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rhan-amser am gyfnod o hyd at 12 mis, a fydd yn ymuno ag Uned Gymraeg y Brifysgol, ac yn chwarae rôlallweddol yn y gwaith o gydlynu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob campws. Fel un o'rdarparwyr addysg uwch mwyaf yng Nghymru, mae'r Brifysgol yn lleoliad delfrydol i unigolion ddatblygueu gyrfaoedd, meithrin eu talent a gwneud gwahaniaeth.
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, hunan-gymhellol, gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol ac sy'n rhoisylw i fanylion. Mae'r gallu i ddatblygu perthynas waith rhagorol gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol agyda'n rhanddeiliaid allanol hefyd yn hollbwysig.
Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg ar fater sy'n ymwneud â gwaith a'r gallu i ysgrifennudeunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Mae hon yn rôl ran-amser (0.8 CALI/29.6 awr) am gyfnod mamolaeth o hyd at 12 mis. Byddwn hefyd ynystyried ceisiadau am secondiad.
Wedi'i lleoli ym Mhontypridd, ond gyda gweithio o bell yn bosibl hefyd, bydd y sawl a
benodir yn cydweithio'n agos â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mewn cydweithrediad â sefydliadauaddysg uwch eraill yng Nghymru. Mae'r Brifysgol ar hyn o bryd yn gweithredu model gweithio hybrid.Fodd bynnag, byddai disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ar y campws am ran o'r wythnos, a theithio i gampysau eraill y Brifysgol, fel rhan o’r rôl hon.
Am sgwrs anffurfiol am swydd hon, cysylltwch â Rebecca Bowen, Pennaeth yr Uned Gymraeg: rebecca.bowen@southwales.ac.uk
Os ydych chi'n ymgeisydd llwyddiannus a’r swydd hon fydd eich swydd gwasanaethau proffesiynol gyntafyn y Brifysgol (neu fe’ch cyflogir gan PSS Ltd ar hyn o bryd), cewch eich cyflogi gan Professional andSupport Services Limited, is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol De Cymru, sy'n darparugwasanaethau i'r Brifysgol a'r Colegau. Os ydych chi'n ymgeisydd gwasanaethau proffesiynol mewnol, byddwch chi'n parhau i gael eich cyflogi gan Brifysgol De Cymru.
Darganfyddwch fanteision gweithio gyda ni yn PDC: https://tinyurl.com/PSSynPDC
Mae Prifysgol De Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored iniwed.
Disgwylir i bawb sy'n gweithio yn y Brifysgol rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym wedi ymrwymo i gyflogigweithlu amrywiol a chreu amgylchedd cynhwysol. Lle gall cydweithwyr fod yn nhw eu hunain a phobperson yn cael ei drin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd a chymunedauamrywiol, yn enwedig o ran oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydda/neu gred. Rydym yn meincnodi ein llwyddiant trwy achrediadau cydraddoldeb gydag Athena Swan, SiarterCydraddoldeb Hil, Stonewall a Hyderus o ran Anabledd.
Bydd gennych fynediad i gyrsiau Cymraeg i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, er mwyn darparu gwasanaeth dwyieithog i’n myfyrwyr, cydweithwyr a’ r cyhoedd.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na’r rhai a wneir yn Saesneg.
Swydd-ddisgrifiad
Swydd Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Adran Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol
Ysgol/Is-adran Yr Uned Gymraeg
Yn darparu gwasanaethau I Prifysgol De Cymru
Gradd a chyflog Gradd F £32,397 - £37,388* y flwyddyn (pro rata) *penodir ar isafswm y raddfa
Cyfateb i gyflog llawn-amser o £40,497 - £46,735 y flwyddyn.
Oriau gwaith Rhan amser – 0.8 CALl (29.6 awr)
Hyd cytundeb Hyd at 12 mis
Yn adrodd i Pennaeth yr Uned Gymraeg
Pwrpas y swydd
Mae Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cydlynu datblygiad darpariaeth Addysg Uwchcyfrwng Cymraeg ar draws tair cyfadran academaidd Prifysgol De Cymru gan weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (Y Coleg).
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn deall cenhadaeth a chynlluniau strategol y Coleg a'u cyfleu igydweithwyr o fewn y Brifysgol. Mae'r swydd hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad â chydweithwyrmewn SAUau eraill yng Nghymru, yn enwedig y rheini yn ne-ddwyrain Cymru.
Y Swyddog Cangen yw'r prif gyswllt rhwng Prifysgol De Cymru a'r Coleg, ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i staff a myfyrwyr y Brifysgol wrth ddatblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg; cydlynuceisiadau am grantiau; monitro cyllidebau; a hyrwyddo'r Gymraeg a'r cyfleoedd Cymraeg yn fewnol ac ynallanol fel ei gilydd.
This document is available in English / Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg
Cyfrifoldebau Allweddol
1. Byddwch yn darparu cymorth mewnol ar gyfer prosiectau a ariennir drwy’r Coleg, gan gynnwyscydlynu’r gwaith o baratoi ceisiadau ac adroddiadau a monitro cyllidebau.
2. Byddwch yn gweithredu fel cyswllt rhwng Prifysgol De Cymru a’r Coleg a chydlynu gwaith
Cangen y Coleg, dan arweiniad cadeirydd y gangen a swyddogion y Brifysgol.
3. Byddwch yn gweithio i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg y Brifysgol a chydweithio gyda staff ar bob lefel i gynnig cyrsiau/modiwlau yn Gymraeg.
4. Byddwch yn cefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith y Brifysgol ac yn cydweithio gyda nhw i
ddatblygu’r cyfleoedd a'r ddarpariaeth Gymraeg.
5. Byddwch yn dadansoddi data ar fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg ar draws y Brifysgol, er mwyn hysbysu’rgwaith datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chydweithio gydag adrannau allweddol i sicrhau bod data cywir yn cael ei gyflwyno i’r sefydliadau allanol perthnasol.
6. Byddwch yn gweithio gydag Adran Myfyrwyr y Dyfodol (marchnata a recriwtio myfyrwyr) i hyrwyddo’rcyrsiau cyfrwng Cymraeg gan sicrhau fod y Gangen yn weledol mewn digwyddiadau recriwtio myfyrwyr ac mewn digwyddiadau cyhoeddus perthnasol.
7. Byddwch yn hyrwyddo, cydlynu a monitro cynlluniau ysgoloriaethau Cymraeg amrywiol y Brifysgol a'rColeg Cymraeg Cenedlaethol.
8. Byddwch yn cydlynu cynrychiolaeth sefydliadol ar bwyllgorau a strwythurau cenedlaethol y Coleg a chydlynu ymateb sefydliadol mewn perthynas â phwyntiau gweithredu.
9. Byddwch yn rhan o dîm sy’n ateb galwadau (ar rota), gan gynnig gwasanaeth dwyieithog ansawdd ucheli’r rhai sy’n cysylltu â phrif linell ffôn y Brifysgol.
10. Byddwch yn hyrwyddo arfer gorau mewn perthynas â materion cydymffurfiaeth, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a diogelu data cyffredinol.
11. Byddwch yn gweithio i werthoedd craidd y Brifysgol a chefnogi eraill i wneud hynny.
Byddwch yn ymgymryd â dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r radd y gellir eu neilltuo o bryd i'w gilydd.
Manyleb y Person
Er mwyn gallu ymgymryd â'r rôl hon yn effeithiol bydd angen y priodoleddau a'r sgiliau allweddol aamlinellir isod. Wrth gwblhau eich cais sicrhewch eich bod yn dangos sut yr ydych yn bodloni'r meiniprawf hyn.
Hanfodol:
1. Addysg i lefel gradd, neu brofiad cyfatebol, perthnasol.
2. Profiad o gyfathrebu'n effeithiol ac yn gywir yn y Gymraeg a'r Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i ystod eang o gynulleidfaoedd, ac ar bob lefel.
3. Y gallu i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol ac effeithiol gyda chydweithwyr arbob lefel, hyd yn oed pan fo safbwyntiau a dulliau gweithredu gwahanol.
4. Profiad o reoli a blaenoriaethu llwyth gwaith prysur ac i gwrdd â therfynau amser tynn.
5. Y gallu i weithio'n annibynnol, defnyddio creadigrwydd a barn broffesiynol i ddod o hyd i atebioneffeithiol.
6. Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac ar eich menter eich hun heb fawr o oruchwyliaeth, gydag agwedd hyblyg at waith.
7. Profiad gweinyddol lefel uchel, gan gynnwys trefnu a chynnal cyfarfodydd, a llunio adroddiadau a chofnodion.
8 Y gallu i ddadansoddi a chyflwyno data, a’i defnyddio i hysbysu prosesau penderfynu strategol.
Dymunol:
9. Dealltwriaeth dda o sut mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Sector Addysg Uwch yng Nghymru yn gweithredu.
10. Profiad o ymwneud â’r sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.
Iechyd a Diogelwch
Rhaid i chi a) ymgyfarwyddo a chydymffurfio â Pholisïau a Gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y sefydliad, sydd ar gael ar Cyswllt (y Fewnrwyd); a b) bod yn gwbl gyfarwydd â'ch cyfrifoldebau iechyd a diogelwch aamlinellir yn nogfen Trefniadau Rheoli Iechyd a Diogelwch y Gyfadran/Adran a'u gweithredu’n unol â hynny.
Ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd - Cynnig o gyfweliad
Mae Professional and Support Services Limited wedi ymrwymo i gyflogi gweithlu amrywiol a chreuamgylchedd cynhwysol lle gall staff fod yn nhw eu hunain a phawb yn cael eu trin ag urddas, tegwch a pharch. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, yn enwedig o ran oedran,anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, hil a chrefydd neu gred. Rydym yn gwarantu bod pob ymgeisydd anabl sy'n cwrdd â'r holl feini prawf allweddol ar gyfer y swydd wag y maent yn gwneud caisamdani yn cael cynnig cyfweliad. Nodir meini prawf allweddol gan * ym Manyleb y Person uchod.
This document is available in English / Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *