This job advert has expired

Rheolwr partneriaethau

Rheolwr partneriaethau

Overview:

Mae’r swydd hon yn galw am unigolion hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.  

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Mentrau Iaith Cymru
Salary: £32,000
Closing Date: 28/03/2025
Closing Time: 12:00:00
Contact Name: Myfanwy Jones
Phone: 01492 643401
Location: Location details can be found in the description
Description:

Mae’r swydd hon yn galw am unigolion hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.  

Amdanom ni 

Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau.  Ein prif nod yw i ddarparu cyfleoedd i rwydweithio, roi llais i’r rhwydwaith, datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithio ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.  

Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.   
 
Prif Bwrpas y Swydd 

Gweithio fel rhan o dîm bychan sy'n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru.  Darparu cefnogaeth i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith a rheoli prosiectau sy’n ychwanegu gwerth i waith y Mentrau wrth iddynt gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned.  Mae Creu a chynnal partneriaethau yn y maes cynllunio a hyrwyddo addysg yn rhan greiddiol o’r swydd hon. 

Prif Ddyletswyddau a chyfrifoldebau: 

Arwain ar y gwaith o ehangu prosiect hyrwyddo addysg Gymraeg, Cymraeg i Bawb, dros Gymru 
Cydlynu a datblygu cefnogaeth i’r Mentrau: caglu a chyflwyno data, rhannu arfer da, cynorthwyo i sefydlu partneriaethau 
Darparu/Trefnu hyfforddiant i swyddogion y Mentrau 
Rheoli prosiectau cenedlaethol 
Rheoli grantiau cenedlaethol 
Rheoli a threfnu digwyddiadau ac ymgyrchoedd cenedlaethol 
Cyfathrebu gyda’r Mentrau Iaith 
Cydlynu a datblygu adnoddau i’r Mentrau Iaith ac i’r maes addysg Gymraeg yn fwy eang 
Datblygu prosiectau cenedlaethol 
Darparu elfennau o hyfforddiant neu weithdai yn ôl y galw 
Cydweithio â phartneriaid allweddol yn y maes a datblygu partneriaethau newydd 
Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynrychioli buddion MIC a’r Mentrau 
 
Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol: 

Cefnogi gwaith swyddogion eraill MIC i gyflawni gweithgareddau a phrosiectau amrywiol 
Paratoi adroddiadau rheolaidd ar y gwaith a gyflawnwyd er mwyn adrodd i Bwyllgor Gweithredol MIC a Llywodraeth Cymru 
Mynychu digwyddiadau MIC  
Mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd perthnasol 
Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol  
 
Sgiliau / Profiad hanfodol 

Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel.  
Y gallu i drefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan ddatblygu syniadau a strategaethau newydd 
Profiad o ddatblygu a chynnal partneriaethau 
Y gallu i gydweithio ag eraill, dwyn perswâd ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd 
Sgiliau cyfrifiadurol da 
Gallu i gasglu data a gwneud gwaith mapio 
Profiad o reoli prosiectau a llunio adroddiadau 
Yn meddu ar drwydded yrru lân a chyfredol a defnydd o drafnidiaeth eich hunan.  
Yn rhugl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) - ar lafar ac ysgrifenedig. 
Dealltwriaeth o waith MIC, Mentrau Iaith a phartneriaid sy’n ymwneud â’r maes hyrwyddo’r Gymraeg  
Profiad o reoli cyllid/ cyllidebau  
Profiad o lunio ceisiadau ariannol  
 
Sgiliau / profiad dymunol 

Profiad o weithio yn y maes cyfathrebu/ hyrwyddo/ gwybodaeth 
Profiad a dealltwriaeth o waith y trydydd sector a / neu’r sector addysg yng Nghymru 
Profiad o ddatblygu partneriaethau 
Profiad o lunio strategaethau 
Dealltwriaeth o theorïau newid ymddygiad,  polisi iaith a’r maes cynllunio iaith yng Nghymru.  

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Additional job information can be found below

Use the documents below to apply for the job advert

Use the contact information above to contact us for more information

Downloads / Forms and useful documents:

Disgrifiad Swydd Rheolwr Partneriaiethau

Ffurflen Gais

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

General Advisor

Receptionist

Ymddiriedolwyr