This job advert has expired
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Overview:
Rydyn ni'n chwilio am Reolwr Marchnata a Chyfathrebu i ymuno â'r tîm
Cyfle i arwain ar holl elfennau marchnata a chyfathrebu’r Eisteddfod, gan gynnwys ein platfformau digidol a’n gwefan, gan gynnwys ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, llunio a gweithredu ein strategaethau cyfathrebu lleol a chenedlaethol, y wasg a’r cyfryngau, hysbysebu, creu copi mewn print ac ar-lein, a llawer mwy.
Description:
RHEOLWR MARCHNATA A CHYFATHREBU
Atebol i: Cyfarwyddwr Strategol yr Eisteddfod
DISGRIFIAD SWYDD
Prif Ddyletswyddau
- Llunio a gweithredu strategaethau cyfathrebu a marchnata’r Eisteddfod yn ganolog ac ar gyfer pob Eisteddfod unigol.
- Rheoli, hybu a pharatoi arweinyddiaeth greadigol gan ddatblygu adnoddau a systemau i hybu gweithgareddau, a monitro, datblygu a chodi proffil yr Eisteddfod yn y wasg a’r cyfryngau.
- Comisiynu a rheoli ymchwil yn ôl yr angen a chreu, coladu a llunio arolygon er mwyn paratoi gwybodaeth ystadegol i hysbysu penderfyniadau’r Tîm Rheoli a’r Bwrdd.
- Rheoli prosesau ymgyrchoedd hysbysebu’r Eisteddfod ynghyd â hybu ac amddiffyn y brand a’r ddelwedd gorfforaethol drwy reoli enw da'r Eisteddfod yn gyhoeddus.
- Monitro ffynonellau gwybodaeth a gynhyrchir gan sefydliadau allanol perthnasol a chynghori'r Tîm Rheoli a’r Bwrdd ar ymateb corfforaethol.
- Cyfathrebu gwybodaeth gorfforaethol berthnasol yn rheolaidd i gyd-weithwyr.
- Arwain ar greu a chyhoeddi llenyddiaeth swyddogol yr Eisteddfod mewn print ac ar-lein.
- Rheoli sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.
- Cynllunio a gweithredu anghenion cyhoeddusrwydd noddwyr.
- Rheoli, datblygu a diweddaru gwefan a phlatfformau digidol yr Eisteddfod, gan gynnwys paratoi a golygu clipiau fideo drwy gydol y flwyddyn.
- Paratoi cylchlythyrau electronig ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol, a chadw mewn cysylltiad gydag ymwelwyr a chwsmeriaid.
Math o gytundeb: Parhaol
Cyflog: £34,250 - £36,352. Penodir ar waelod y raddfa.
Dyddiad cau: 8 Chwefror 2023
Cyfweliadau: 16 / 17 Chwefror (lleoliad i’w gadarnhau).
Sut i ymgeisio: Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd at swyddi@eisteddfod.cymru. Mae croeso i chi gysylltu â gwenllian@eisteddfod.cymru i drefnu sgwrs anffurfiol cyn y dyddiad cau.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Use the contact information above to contact us for more information
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Contact Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu