This job advert has expired

Reolwr Prosiect

Reolwr Prosiect

Overview:

Mae'r Brifysgol yn chwilio am Reolwr Prosiect medrus a phrofiadol i ymuno â Thîm Cynllunio'r Brifysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni amrywiaeth o brosiectau strategol corfforaethol.  

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Salary: £39,347 – £45,585 y flwyddyn
Closing Date: 02/04/2025
Closing Time: 23:59:00
Contact Name: Adran Adnoddau Dynol
Location: The role is based on our Carmarthen campus and will require working across the University to support projects and project-like activity, as part of the development and delivery of services. There will be an opportunity to drive change and improvement by applying agreed principles in order to achieve objectives and results. The Project Manager will provide regular progress reports and updates to internal project sponsors, as well as preparing reports for external bodies as required.
Description:

Campws Caerfyrddin

Bellach mae PCYDDS yn addysgu dros 16,000 o fyfyrwyr ar draws ei chwe champws yn y DU; pedwar yng Nghymru a dau yn Lloegr. Mae gan y Brifysgol bartneriaethau addysgol rhyngwladol hirsefydlog yn Ewrop, Tsieina, Malaysia, UDA a mannau eraill.  

Ein nod yw trawsnewid addysg ac felly trawsnewid bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Rydym eisoes yn cael ein cydnabod am ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr:

·      1af yng Nghymru a chydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, Gorffennaf 2024)

·      1af yng Nghymru am 7 pwnc ac yn 10 uchaf y DU am 3 phwnc (Guardian University League Table 2024)

Daw ein llwyddiant o ymrwymiad, sgil, gwybodaeth a gallu ein pobl i gydweithio. Bellach rydym yn adeiladu ar y diwylliant a’r ddarpariaeth gref hon i ddod yn ddarparwr blaenllaw o addysg uwch hygyrch.

- Y RÔL - 

Mae'r Brifysgol yn chwilio am Reolwr Prosiect medrus a phrofiadol i ymuno â Thîm Cynllunio'r Brifysgol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni amrywiaeth o brosiectau strategol corfforaethol.  Bydd y gwaith yn rhoi cyfle i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu blaenoriaethau allweddol drwy hwyluso a chymhwyso egwyddorion dull prosiect, defnyddio data i lywio penderfyniadau a rhoi mewnwelediad i feysydd gweithgarwch o fewn y sefydliad a all effeithio ar, neu gyfrannu at ddarparu gweithgareddau.  

Gyda dull rhagweithiol, cadarnhaol a ffocws ar ddatblygiad proffesiynol profiadol parhaus, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthnasoedd gwaith rhagorol ar draws y sefydliad gyda rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid er mwyn sicrhau bod gofynion y prosiectau'n cael eu bodloni a'u cyflawni o fewn amserlenni.  Bydd angen iddynt ddatblygu dealltwriaeth o'r gweithgarwch craidd a'r ffactorau allweddol hynny sy'n sail i gyflawni ac effeithio ar ddarparu prosiectau busnes, gyda hyblygrwydd i addasu a chyfrannu'n effeithiol at amrywiaeth o anghenion ar draws y Brifysgol.  

Mae'r rôl wedi'i lleoli ar ein campws yng Nghaerfyrddin a bydd angen gweithio ar draws y Brifysgol i gefnogi prosiectau a gweithgaredd tebyg i brosiectau, fel rhan o’r gwaith o  ddatblygu a chyflenwi gwasanaethau.  Bydd cyfle i yrru newid a gwelliant trwy gymhwyso egwyddorion y cytunwyd arnynt er mwyn cyflawni amcanion a chanlyniadau.  Bydd y Rheolwr Prosiect yn darparu adroddiadau a diweddariadau cynnydd yn rheolaidd i noddwyr prosiect mewnol, yn ogystal â pharatoi adroddiadau ar gyfer cyrff allanol yn ôl yr angen.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd am fanylion am y meini prawf hanfodol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. 

- Y Gymraeg -

Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. 

- Gwybodaeth ychwanegol -

Mae 35 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau pro rata

Am wybodaeth am ein buddion staff, copïwch a gludwch y ddolen hon i’ch porwr:  https://www.uwtsd.ac.uk/cy/amdanom/swyddi  

Gall y rôl hon fod yn gymwys i gael nawdd yn amodol ar ofynion trothwy cyflog y Swyddfa Gartref https://www.gov.uk/skilled-worker-visa/your-job  (gradd 5 neu’n uwch) 

Sylwer nad yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, bydd eich cais yn cael ei asesu yn seiliedig ar eich cais a’ch datganiad ategol 

Dyddiad cau: 2 Ebrill 2025, 11:59yp

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Uwch Swyddog Adnoddau Dynol

Business Development Manager

Actor / Creative Facilitator