This job advert has expired
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, Lefel 2
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, Lefel 2
Overview:
Teitl y Swydd:
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerffili
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerdydd
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Caerfyrddin
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon – Gwynedd ac Ynys Mon (2 swydd)
Math o gontract: 13 mis, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Prentis Blwyddyn 1 (£12,394 y flwyddyn)
Lleoliad: Gweler uchod ac yn y swydd ddisgrifiad
Description:
Prif bwrpas y swydd:
Cyfle i unigolyn gyda diddordeb mewn chwaraeon i ymgymryd â phrentisiaeth o fewn Adran Chwaraeon yr Urdd.
Amdanom ni
Mae’r Urdd yn fudiad unigryw ac ers 1922 wedi cynnig profiadau gwerthfawr i fwy na 4 miliwn o blant a phobl ifanc yng Nghymru drwy feysydd Chwaraeon, Celfyddydol, Preswyl, Dyngarol, Rhyngwladol a Gwirfoddol.
Rydym wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Dyma felly ddatgan ein huchelgais i barhau i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith a’r bobl ifanc Cymru. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc ein gwlad, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Nod y swydd fydd cynyddu cyfranogaeth plant a phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol mewn gweithgaredd chwaraeon cyson, drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y swydd hefyd yn hybu amrywiaeth a chynhwysiant drwy weithio’n agos gyda’r Swyddog Datblygu Chwaraeon, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Catrin Davis sef Pennaeth Prentisiaethau ar catrindavis@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais Prentisiaethau’r Urdd ar e-bost at prentisiaeth@urdd.org
Dyddiad Cau: 03/05/24
Dyddiad Cyfweld: w/c 13/05/24
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Additional job information can be found below
Use the documents below to apply for the job advert
Use the contact information above to contact us for more information
Downloads / Forms and useful documents:
Ffurflen cyfle cyfartal
Ffurflen gais
Disgrifiad swydd
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, Lefel 2
Contact Prentis Arwain Gweithgareddau Chwaraeon, Lefel 2