This job advert has expired

Prawfddarllenydd / Golygydd Cymraeg

Prawfddarllenydd / Golygydd Cymraeg

Overview:

Rydym yn chwilio am Brawfddarllenydd / Golygydd Cymraeg  i ymuno â ni'n llawn-amser (37 awr yr wythnos) ac yn barhaol.  

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Salary: £33,966 - £38,205 y flwyddyn
Closing Date: 25/07/2024
Closing Time: 23:59:00
Location: One of the University's campuses in Wales (depending on the location of the successful candidate), but should be able to work from home, and in other locations, as required
Description:

Prawfddarllenydd / Golygydd Cymraeg 

Un o gampysau’r Brifysgol yng Nghymru (yn dibynnu ar leoliad yr ymgeisydd llwyddiannus), ond dylid gallu gweithio gartref, ac mewn lleoliadau eraill, yn ôl yr angen 

£33,966 - £38,205 y flwyddyn

– AMDANOM NI – 

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o’n gweithwyr ymroddedig a thalentog, ac rydym yn dîm sy'n gweithio gyda’n gilydd i wneud gwahaniaeth i fywydau ein myfyrwyr a’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn y 14eg safle yn y DU ar gyfer Cynhwysiant Cymdeithasol ac yn yr 28ain safle yn y DU ar gyfer Ansawdd yr Addysgu (Canllaw Prifysgolion Da The Times a'r Sunday Times, 2023), ac yn yr 21ain safle yn y DU ar gyfer Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide, 2023). Mae ein llwyddiant yn dibynnu'n helaeth ar ymrwymiad a sgiliau ein pobl. 

Rydym yn chwilio am Brawfddarllenydd / Golygydd Cymraeg  i ymuno â ni'n llawn-amser (37 awr yr wythnos) ac yn barhaol.  

- Y RÔL -

Prif rôl y Prawfddarllenydd/Golygydd fydd ymuno â’r tîm er mwyn gwella prosesau sicrhau ansawdd yr Uned, gan brawfddarllen a golygu deunydd a gyfieithwyd ar ran yr Uned.

Darllenwch y Swydd-ddisgrifiad i gael rhagor o wybodaeth.

- AMDANOCH CHI -

I gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon bydd arnoch angen y canlynol:

-       Gradd gydag anrhydedd yn y Gymraeg neu gymhwyster cyfwerth

-       Profiad blaenorol o weithio fel prawfddarllenydd/golygydd 

-       Sgiliau technoleg gwybodaeth priodol 

-       Y gallu i weithio’n annibynnol 

-       Y gallu i weithio fel rhan o dîm

-       Y gallu i weithio dan bwysau 

-       Sgiliau iaith ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg 

-       Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a’r gallu i gyfathrebu’n briodol ag eraill

-       Mae’r gallu i gyfathrebu ar lefel uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar lafar ac ar bapur, yn gwbl allweddol i’r swydd hon

Byddai hefyd o fantais pe byddech yn meddu ar y canlynol:

-       Cymhwyster cydnabyddedig yn Saesneg ar lefel 3 neu gymhwyster cyfwerth

-       Aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu gorff cyfieithu arall  

-       Profiad blaenorol o ddefnyddio meddalwedd prawfddarllen drwy gyfrwng y Gymraeg  

- BUDDION -

- Bydd gennych hawl i 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, yn ogystal ag wyth gŵyl banc a phedwar diwrnod pan fydd y Brifysgol ynghau.

Mae ein cyflogeion yn cael mynediad at becyn cyflog a buddion cynhwysfawr yn gydnabyddiaeth am eu cyfraniad gwerthfawr, sy'n cynnwys:

-        Cyflog cystadleuol a datblygiad cyflog 

-        Lwfans gwyliau blynyddol hael, yn cynnwys cau dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 

-        Aelodaeth o gynllun pensiwn gan yr USS i ddarparu buddion i chi a'ch teulu

-        Mynediad at lwyfan buddion a llesiant sydd â dewis o fuddion i weddu i’ch anghenion, gan gynnwys cynllun aberthu cyflog ar gyfer cerbyd trydan, a gwasanaethau llesiant ariannol 

-        Cymorth ar gyfer iechyd a llesiant, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau chwaraeon ar y campws am brisiau gostyngol, gwasanaethau iechyd galwedigaethol a chymorth cwnsela

-        Cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad, gan gynnwys cymorth i ennill rhagor o gymwysterau

-        Polisïau sy'n ystyriol o deuluoedd ac sy'n darparu ar gyfer gweithio'n hyblyg, gan gynnwys absenoldeb mamolaeth a thadolaeth gwell â thâl

-        Cynlluniau teithio, gan gynnwys y cynllun beicio i'r gwaith.

Os ydych yn teimlo y gallech ffynnu a chael effaith yn y rôl hon, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir.

Nodwch nad yw'r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. Felly, asesir eich cais ar sail eich atebion i gwestiynau'r cais yn unig, ac yn arbennig ar sail eich Datganiad Personol.

Nodwch y bydd eich iaith ohebu yn cael ei phennu gan yr iaith y byddwch yn ei defnyddio yn eich cais.  I wneud cais yn Gymraeg, cliciwch ar ‘Cymraeg’ ar ochr dde uchaf y sgrin. 

Dyddiad cau: 25 Gorffennaf 2024, 11:59pm

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Media Planning Coordinator

Ymddiriedolwyr ac Aelodau Bwrdd Gweithredol

Head of Adults