This job advert has expired

Pennaeth Gofal Casgliadau

Pennaeth Gofal Casgliadau

Overview:

Ydych chi’n awyddus i ymuno â thîm sydd â gweledigaeth glir i gadw, tyfu a rhannu cof a diwylliant Cymru? Ydych chi’n chwilio am rôl heriol ac ysbrydoledig? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am arweinydd deinamig a phrofiadol i ymuno â’r Tîm Arwain fel Pennaeth Gofal Casgliadau.

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: The National Library of Wales
Salary: £56,515 - £65,206
Closing Date: 02/06/2025
Closing Time: 11:00:00
Contact Name: Adran Adnoddau Dynol
Location: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Aberystwyth, Ceredigion, Wales, SY23 3BU
Description:

Pennaeth Gofal Casgliadau
Cyflog: £56,515 – £65,206
Math o Gontract: Parhaol (yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn llwyddiannus)
Lleoliad: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Ydych chi’n awyddus i ymuno â thîm sydd â gweledigaeth glir i gadw, tyfu a rhannu cof a diwylliant Cymru? Ydych chi’n chwilio am rôl heriol ac ysbrydoledig? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn chwilio am arweinydd deinamig a phrofiadol i ymuno â’r Tîm Arwain fel Pennaeth Gofal Casgliadau.

Yn y swydd allweddol hon, byddwch yn gyfrifol am arwain y gwaith o ddiogelu, cadw a chynnal casgliadau amrywiol – o eitemau papur a gweithiau celf i ddata digidol o bob math. Byddwch yn gosod cyfeiriad strategol, yn datblygu ac yn gweithredu polisïau cadwraeth, ac yn arwain tîm arbenigol ac ymroddedig yn yr Adran newydd Gofal Casgliadau.

Mae'r rôl yn galw am sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a’r Saesneg, ynghyd â chefndir mewn rheoli gwybodaeth neu gasgliadau, a'r gallu i gydweithio ar lefel genedlaethol ac ryngwladol. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y disgrifiad swydd.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch ag: owain.roberts@llyfrgell.cymru

Mae’r pecyn cyflogaeth yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun pensiwn cyflog terfynol, polisïau sy’n cefnogi teuluoedd, a gostyngiadau yn y bwyty. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gyflogwr cyfle cyfartal.

I ofyn am becyn gwybodaeth neu wneud cais, cysylltwch ag Uned Adnoddau Dynol ar 01970 632530/1 neu e-bostiwch swyddi@llgc.org.uk.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Video:

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Cynorthwyydd Digwyddiadau | Events Assistant

Information Systems Support Technician

Rheolwr Llywodraethu