This job advert has expired
Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant
Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant
Overview:
Cyfatebol sy'n gyfrifol am isdeitlo'r rhan helaeth o raglenni S4C, yn ogystal â gwaith isdeitlo tu hwnt i hynny, mae'r tîm yn tyfu. Rydym yn chwilio am isdeitlydd (neu dan hyfforddiant) i ymuno â'r tïm o baratoi isdeitlau Cymraeg a Saesneg.
Description:
Fel rhan o’r swydd byddwch yn paratoi isdeitlau ar gyfer amrywiaeth eang o raglenni S4C fel Cefn Gwlad, Sgorio a Pobol y Cwm. Byddwch yn gweithio ar raglenni sy'n cyrraedd ymhell o flaen y dyddiad darlledu, rhaglenni sy'n cyrraedd yn agos at y dyddiad darlledu a rhaglenni byw. Mae hyblygrwydd a'r gallu i weithio fel rhan o dîm yn hanfodol.
Byddai profiad o isdeitlo yn ddelfrydol, ond darperir hyfforddiant llawn ar bob agwedd o’r swydd (felly ddim yn anghenraid, felly ni ddylid oedi cyn cysylltu!).
Yn amlwg mae llygad am fanylder a sgiliau ieithyddol Cymraeg a Saesneg o safon uchel yn bwysig iawn i’r swydd. Yn ogystal, mae angen gallu gweithio yn gywir o dan bwysau amserlen dynn ar adegau. Ydych chi'n frwdfrydig?
Rydym yn barod i ystyried hyblygrwydd o ran y math o gytundeb a pherthynas.
Cysylltwch os am sgwrs anffurfiol a rhagor o wybodaeth.
owain@cyfatebol.com
Additional Information:
Use the contact information above to contact us for more information
Video:
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant
Contact Isdeitlydd neu Isdeitlydd dan Hyfforddiant