This job advert has expired
Helpline Advisor Advocate
Helpline Advisor Advocate
Overview:
Rydym yn chwilio am Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth angerddol ac ymroddedig. Byddech yn bencampwr dros blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, a gofalwyr.
Description:
Swydd Ddisgrifiad – Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth
Cyflog: £21,840 - £29,600 (dan adolygiad)
Lleoliad: Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Oriau gwaith: Oriau a sifftiau i'w cadarnhau gan gynnwys penwythnosau a thu allan i oriau swyddfa
Gwyliau: 27 diwrnod y flwyddyn, yn cynyddu i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth (llawn amser; pro rata os yn rhan amser)
Hyd y cytundeb: Parhaol (yn amodol ar gyllid)
Cyfnod prawf: 6 mis
Atebol i: Rheolwr Gweithrediadau Llinellau Cymorth
(llawn amser, rhan amser, sesiynol, dan hyfforddiant)
Gwnewch Wahaniaeth: Byddwch yn Bencampwr i Bobl Ifanc
(Eiriolwr Gynghorwr Llinell Gymorth gyda Meic a thîm Gweithredu Cymdeithasol ProMo Cymru)
Ydych chi'n awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau pobl bob dydd?
Rydym yn chwilio am Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth angerddol ac ymroddedig. Byddech yn bencampwr dros blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, a gofalwyr.
Pam y byddech chi'n hoffi gweithio yn ProMo Cymru:
Cael effaith go iawn: Yn galluogi newid ac yn grymuso pobl i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed, a'u hanghenion yn cael eu cyrraedd
Bod yn rhan o dîm sy'n meithrin: Gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr angerddol sydd yn rhannu eich ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol
Dysgu a thyfu: Datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau gyda hyfforddiant, adlewyrchu, a chefnogaeth
Gweithio'n hyblyg: o'n swyddfa yng Nghaerdydd a/neu weithio gartref
Yr hyn byddech chi'n ei wneud:
Darparu gwasanaethau i blant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n canolbwyntio ar y person
Darparu gwybodaeth, cyngor, eiriolaeth, a chymorth fel arall ar y ffôn, e-bost, neges testun, neges ar y we a WhatsApp
Gweithio gydag unigolion i gyflawni newidiadau positif sy'n seiliedig ar benderfyniadau gwybodus a hyder a gwytnwch gwell
Creu cysylltiadau ystyrlon rhwng unigolion, adnoddau, a gwasanaethau
Sicrhau perthnasau gwaith pwrpasol ac yn ddylanwad positif ar y tîm
Yr hyn ydych chi:
Mae gwerthoedd yn bwysig i chi, ac rydych chi'n angerddol dros hawliau, cyfiawnder cymdeithasol a lles.
Rydych chi'n awyddus i ddatblygu a defnyddio eich potensial, sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
Rydych yn agored, yn dosturiol, yn ddibynadwy, ac yn hyblyg
Amdanom ni
ProMo Cymru - Newid Creadigol Er Lles Cymdeithasol
Mae ProMo yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, wedi'u hymgysylltu, cysylltu a'u clywed.
Rydym yn gweithio gyda chymunedau drwy gyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol a chynhyrchiad digidol a chyfryngol.
Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad, ond rydym hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cyflwyno rhywbeth newydd a gwahanol i'n sefydliad.
Os ydych chi'n teimlo fel eich bod yn bodloni'r uchod, yna rydym yn recriwtio ar hyn o bryd a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!
Ein Dull o Weithio
Rydym yn cyfathrebu. cynllunio ac yn adeiladu gyda phobl ifanc a chymunedau i wireddu newid. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â'r sectorau trydydd sector a chyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell sydd wedi'u cynllunio a'u darparu gyda phobl.
Mae degawdau o waith yn trosglwyddo gwybodaeth ieuenctid digidol a gwasanaethau cymunedol yn llywio ein gwaith. Rydym yn rhannu'r wybodaeth yma gyda hyfforddiant, ymgynghoriaeth, ac yn creu partneriaethau hir dymor er budd pawb.
Ein Tîm
Rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac mae yna bwyslais ar sgiliau a datblygiad personol. Rydym yn angerddol am yr hyn rydym yn ei wneud.
Amcan y Swydd:
Cael Effaith Bositif
Rydym yn credu bod pawb yn gallu cyfrannu rhywbeth gwerthfawr. Dyna pam rydym yn cynnig amgylchedd cefnogol i bawb, ble byddech chi’n cael eich grymuso i dyfu ochr yn ochr â thîm Gweithredu Cymdeithasol ymroddedig. Yma, byddech yn chwarae rhan hanfodol yn trosglwyddo gwasanaethau sydd yn seiliedig ar hawliau, ac yn canolbwyntio ar y person, i amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys plant, pobl ifanc, oedolion bregus, rhieni, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Downloads / Forms and useful documents:
Disgrifiad Swydd
Video:
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Helpline Advisor Advocate
Contact Helpline Advisor Advocate