This job advert has expired

Head of Content Operations

Head of Content Operations

Overview:

Mae S4C yn chwilio am Bennaeth Gweithrediadau Cynnwys i ymuno gyda'r adran Cyhoeddi. Wrth i fyd darlledu drawsnewid i gyhoeddi aml-lwyfan, mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn ganolog i'r newid hwnnw yn S4C.

Byddwch yn gweithio'n agos gyda nifer o Uwch Swyddogion yn fewnol a gyda chwmnïau allanol i sicrhau bod y cynnwys ar gyfer pob llwyfan yn cael ei gyfleu yn gywir ac yn amserol, ac yn cael ei gyhoeddi i'r safon uchaf drwy drefnu, gweithredu a chydlynu'r llifoedd gwaith mwyaf priodol a chyfredol.

Byddwch yn rhan o dîm sy'n cynghori ar wariant cynnwys ac ar ddulliau cynhyrchu llinol a digidol, er mwyn sicrhau bod S4C yn derbyn gwerth am arian a bod y gwariant yn adlewyrchu gofynion golygyddol y sianel a dulliau cynhyrchu cyfredol. Byddwch hefyd yn rhan o dîm sy'n arwain ar wireddu strategaeth hyfforddiant sector S4C.

Bydd gennych brofiad o weithio yn y sector gynhyrchu teledu ynghyd a phrofiad sylweddol o systemau darlledu a chyhoeddi cynnwys ac o gytundebu cynnwys, ynghyd a dealltwriaeth ddofn o'r sector ddarlledu a'r datblygiadau mewn gwasanaethau aml-blatfform.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn effeithiol a throsglwyddo gwybodaeth mewn ffordd ddeallus a phwrpasol yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

 

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: S4C
Salary: Around £80,000 dependant on experience
Closing Date: 25/07/2024
Closing Time: 12:00:00
Contact Name: Adnoddau Dynol
Location: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi deithio yn eithaf rheolaidd fel rhan o’ch swydd. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon, Caerfyrddin ac yng Nghaerdydd o bryd i’w gilydd.
Description:

Manylion Eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Bydd gofyn ichi deithio yn eithaf rheolaidd fel rhan o'ch swydd. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon, Caerfyrddin ac yng Nghaerdydd o bryd i'w gilydd.

Cyflog: O gwmpas £80,000 yn ddibynnol ar brofiad.

Cytundeb: Parhaol

Oriau Gwaith: 35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod Prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Iau 25 Gorffennaf 2024 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Dyddiad Cyfweliadau: 1 Awst 2024

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

Downloads / Forms and useful documents:

Manylion Swydd

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *

APPLY NOW

More

SEE ALL

Golygydd Cynnwys

Swyddog Prosiect

Tiwtor Cymraeg