This job advert has expired
Golygydd Cynnwys
Golygydd Cynnwys
Overview:
Bydd y rôl hon yn rhan o dîm o arbenigwyr profiadol a fydd yn cydweithio i sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy’n darparu profiad defnyddiwr gwych, gyda chynnwys diddorol, perthnasol a hygyrch sy’n bodloni (ac yn rhagori ar) anghenion defnyddwyr.
Description:
Cyflog: Graddfa 4 / £25,138 i £28,759 y flwyddyn*
Cyfeirnod y Swydd: 51531
Lleoliad: Abertawe neu Gaerfyrddin
Swyddogaeth: Marchnata
Statws: Amser llawn
Math o Swydd: Parhaol
Rydym yn sefydlu tîm amlddisgyblaethol newydd gyda chyfrifoldeb am gyflwyno a gwella’n barhaus y cynnwys digidol a ddosberthir trwy ein prif wefan allanol a’n mewnrwyd staff.
Bydd y rôl hon yn rhan o dîm o arbenigwyr profiadol a fydd yn cydweithio i sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr sy’n darparu profiad defnyddiwr gwych, gyda chynnwys diddorol, perthnasol a hygyrch sy’n bodloni (ac yn rhagori ar) anghenion defnyddwyr.
Yn y pen draw, bydd gwaith y tîm yn creu profiadau digidol rhagorol a fydd yn helpu darpar fyfyrwyr a rhanddeiliaid allanol eraill i ddewis astudio a gweithio gyda PCYDDS a galluogi cydweithwyr i ddod o hyd i wybodaeth a’i rhannu’n fwy effeithiol.
Bydd y rolau newydd hyn yn sefyll ochr yn ochr â’r timau eraill yn yr adran Farchnata ehangach, fel y cyfryngau cymdeithasol, Hysbysebu a Marchnata Cynnwys.
*Mae PCYDDS yn falch o fod yn Gyflogwr Cyflog Byw Achrededig. Mae cyfradd y CyflogByw Gwirfoddol o £12.60 yr awr i’w gweithredu ar 1 Ebrill 2025. Byddwn yn cymhwysoaddasiad i’r gyfradd cyflog fesul awr am y rôl hon i’w chynyddu i £13.71 yr awr.
- Y RÔL -
Fel Golygydd Cynnwys, bydd gennych brofiad o greu profiadau defnyddwyr hygyrch, ansawdd uchel ar wefannau a bydd gennych ddealltwriaeth dda o egwyddorion dylunio cynnwys a phrofiad defnyddwyr (UX).
Byddwch yn gyfrifol am greu a diweddaru cynnwys ar gyfer o leiaf un cynnyrch digidol (uwtsd.ac.uk ac intranet.uwtsd.ac.uk). Byddwch yn defnyddio meddalwedd ac offer i sicrhau ansawdd cynnwys a gyhoeddir ar y wefan, gan roi sylw i ddolenni sydd wedi torri a chynnwys anhygyrch. Bydd gennych ddealltwriaeth dda o Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) i ddynodi bylchau yn ein cynnwys ac i weithredu strategaethau optimeiddio gwahanol.Byddwch hefyd yn gyfarwydd ag egwyddorion dylunio cynnwys sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gynnwys defnyddioldeb y we a dylunio profiadau defnyddwyr (UX).
Byddwch yn helpu i reoli ceisiadau gan ystod o arbenigwyr pwnc i ddiweddaru neu greu cynnwys newydd, ac yn gweithio gyda chydweithwyr eraill o fewn y tîm cyflawni amlddisgyblaethol (fel yr Ymchwilydd UX, Dylunydd Cynnwys, Uwch Swyddog SEO) i greu a rheoli cynnwys gwefan lle bo angen.
- Y GYMRAEG -
Mae’r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Gweler y disgrifiad swydd am fanylion ynghylch y meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl hon.
- GWYBODAETH YCHWANEGOL -
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn, ynghyd ag 8 gŵyl banc a 4 diwrnod pan fo’r Brifysgol ar gau, pro rata
- I gael gwybodaeth am ein buddion i staff, copïwch a gludo’r ddolen hon i mewn i’ch porwr: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/amdanom/swyddi-gweithio-yn-y-drindod-dewi-sant
- Nid yw’r rôl yn gymwys i gael nawdd yn unol â gofynion trothwy cyflog y Swyddfa Gartref https://www.gov.uk/skilled-worker-visa/your-job (graddfa 4 ac is)
- Nid yw’r broses ymgeisio hon yn cynnwys yr opsiwn i gyflwyno CV. O’r herwydd, caiff eich cais ei asesu ar sail eich cais a’ch datganiad ategol
Dyddiad cau: 16 Mehefin 2025 11:59PM
Dyddiad cyfweld: I’w gadarnhau
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *