This job advert has expired

Cynorthwyydd Gweithredol (Cymraeg hanfodol)

Cynorthwyydd Gweithredol (Cymraeg hanfodol)

Overview:

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd gweithredol llawn cymhelliant, gweithgar a phrofiadol, sydd â medrau trefnu rhagorol i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog gyda chyfle rannu swydd ran-amser.  

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW
Employers Name: Estyn
Salary: £25,860 - £29,430 (cyfwerth ag amser llawn)
Closing Date: 10/10/2022
Closing Time: 10:00:00
Location: Caerdydd (wrthi’n archwilio trefniadau gweithio hybrid ar hyn o bryd.)
Description:

Cynorthwyydd Gweithredol (Cymraeg hanfodol)

Cyfnod Penodol hyd at 2 flynedd

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd gweithredol llawn cymhelliant, gweithgar a phrofiadol, sydd â medrau trefnu rhagorol i ymuno â’n tîm Gwasanaethau Canolog gyda chyfle rannu swydd ran-amser.  

Fel Cynorthwyydd Gweithredol yn gweithio ar sawl tasg mewn amgylchedd prysur, byddwch yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddiaeth a chymorth i uwch reolwyr, grwpiau rheoli amrywiol, byrddau, pwyllgorau a gweithgareddau busnes allweddol. Mae’r tîm sefydledig hwn yn ddynamig ac yn rhagweithiol ac yn cydweithio’n agos â’r uwch dîm rheoli ar amrywiaeth o brosiectau wrth iddynt gyflawni blaenoriaethau Estyn.

Meini prawf yn benodol i’r swydd

Mae’n hanfodol:

·      bod gennych fedrau cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd rhagorol

·      eich bod yn gallu defnyddio systemau TG yn hyderus, gan gynnwys Microsoft Office

·      eich bod yn drefnus, gyda medrau rheoli amser da ,ac yn gallu blaenoriaethu gwaith a chwblhau tasgau o fewn amserlenni cytûn

·      eich bod yn hawdd mynd atoch ac yn gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol, gan gynnwys gydag uwch reolwyr ac yn allanol

·      eich bod yn gallu gweithio’n hyblyg ar draws tasgau ac ymateb i geisiadau brys ar fyr rybudd

·      eich bod yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio at atebion, a bod gennych agwedd gadarnhaol, ymarferol

·      eich bod yn gallu cynnal lefelau uchel o ymddiriedaeth a chyfrinachedd

·      eich bod yn gallu gweithio’n gywir a bod gennych lygad craff am fanylion

·      eich bod yn gallu gweithio’n annibynnol ac ar eich menter eich hun, wrth gydweithio ag aelodau’r tîm a phobl eraill yn y sefydliad hefyd

·      eich bod yn gallu defnyddio’ch  medrau Cymraeg (ysgrifenedig a llafar) i weithio’n ddwyieithog

Ymddygiadau allweddol

·      Gweld y darlun cyflawn

·      Cyfathrebu a dylanwadu

·      Cydweithio

·      Rheoli gwasanaeth o ansawdd da

·      Cyflawni’n gyflym

Cyflog - £25,860 - £29,430 (cyfwerth ag amser llawn)

Oriau gwaith – Hyd at 18.5 awr y wythnos, ac eithrio egwyliau. Ar hyn o bryd, mae’r swydd yn cael ei chyflawni bob dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher. Rydym yn agored i drafod yr oriau (o fewn yr uchafswm) a’r diwrnodau gwaith. 

Lleoliad – Caerdydd, lle mae lleoedd parcio ar gael am ddim. Rydym yn treialu cynllun gweithio hybrid ar hyn o bryd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10:00am, Ddydd Llun, 10 Hydref 2022.

Additional Information:

Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website

* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding * APPLY NOW

More

SEE ALL

Swyddog Llywodraethiant

Uwch Gyfieithydd (x2)

Cynorthwyydd Tîm (Y Ganolfan Wasanaeth) (1 FTE)