This job advert has expired
Cyfieithydd
Cyfieithydd
Overview:
Mae’r cyfieithydd yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi GLlTEF a phartneriaid eraill o fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflawni’r goblygiadau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg unigol.
Description:
Swydd:
1 x Cyfieithydd
Cyfeirnod:
Lleoliad
Uned yr Iaith Gymraeg, Canolfan Cyfiawnder Troseddol Caernarfon neu leoliad llys neu dribiwnlys arall yng Nghymru
Math o Gontract: Tymor Penodedig o 12 mis gyda’r posibilrwydd o estyniad.
Trosolwg
Mae’r cyfieithydd yn chwarae rôl hanfodol o ran galluogi GLlTEF a phartneriaid eraill o fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder i gyflawni’r goblygiadau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg unigol. Bydd angen i’r deiliad swydd fod â sgiliau ieithyddol o’r safon uchaf yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn gallu cyfieithu’n gywir a rhoi’r sylw priodol i ramadeg a chystrawen y ddwy iaith.
Disgrifiad Swydd
Prif gyfrifoldebau:
Cyfieithu pob math o waith e.e. agendâu, adroddiadau, cofnodion, llythyrau, e-byst i sicrhau bod GLlTEF ac aelodau o deulu ehangach y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cydymffurfio â'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Wrth i WLlTEM barhau i ddigideiddio nifer o’i wasanaethau, i gynorthwyo gyda chyfieithu’r cynnwys, treialu’r cynnwys gyda siaradwyr Cymraeg a gwirio bod y cynnwys Cymraeg yn ymddangos yn gywir ar y platfform Cymraeg.
Prawf ddarllen gwaith eich hun a gwaith cyfieithwyr eraill yn y tîm.
Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd a maes o law mewn achosion llys neu dribiwnlys.
Helpu i gynnal cyfryngau cymdeithasol Cymraeg GLlTEF trwy drydar yn y Gymraeg neu gyfieithu is-deitlau.
Cyflwyno gwaith wedi’i gyfieithu mewn fformat dwyieithog os yw’n ofynnol. Bydd hyn yn golygu bod yn gyfarwydd â dylunio dwyieithog.
Bod â’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â datblygiadau ym maes terminoleg Cymraeg a chymorth technegol i gyfieithwyr.
Cynorthwyo i ddiweddaru banc terminoleg Uned yr Iaith Gymraeg.
Cyfrannu i waith yr Uned Gymraeg yn ehangach a bod yn barod i helpu i wella ffyrdd o weithio trwy ddefnyddio technegau gwelliant parhaus.
Sgiliau a Chymwysterau
Gradd yn y Gymraeg, cymhwyster cydnabyddedig ym maes Cyfieithu h.y. Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru neu Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Cyfieithu, neu brofiad yn gweithio fel cyfieithydd cymwys.
Gallu i weithio gyda rhaglenni Microsoft megis Word, Outlook a chof cyfieithu fel TRADOS.
Cyflog, Trefniadau Gweithio a Gwybodaeth Bellach
Cyflog cychwynnol
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ar waelod yr ystod cyflog.
Math o Gontract
Tymor Penodol
Oriau gweithio hyblyg
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnig system gweithio hyblyg mewn llawer o swyddfeydd. Mae’r Uned Iaith Gymraeg yn gweithio mewn modd ‘hybrid’ sy’n cynnwys cyfuniad o weithio mewn swyddfa ac o gartref h.y 3 diwrnod yr wythnos o gartref a 2 o’r swyddfa.
Buddion
Mae gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder amrediad o fuddion:
Gwyliau Blynyddol
Lwfans hael ar gyfer gwyliau â thâl, yn dechrau ar 25 diwrnod y flwyddyn ac yn cynyddu i 30 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd. Ceir hefyd gynllun sy’n caniatáu i staff brynu neu werthu hyd at dri diwrnod o wyliau y flwyddyn. Amser ychwanegol i ffwrdd, gyda thâl, ar gyfer gwyliau cyhoeddus a 2.5 diwrnod braint. Cyfrifir gwyliau ar gyfer swyddi rhan amser a swyddi a rennir ar sail pro-rata.
Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Sifil yn cynnig dewis o gynlluniau pensiwn, gan roi’r hyblygrwydd i chi ddewis y pensiwn gorau i chi.
Hyfforddiant
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymroddedig i ddatblygu staff ac mae'n cynnig amrediad o gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Cefnogaeth
· Amrediad o bolisïau ystyriol o deuluoedd, megis cyfleoedd i weithio llai o oriau neu rannu swydd.
· Hawl i fuddion hyblyg, megis trefniadau aberthu cyflog am dalebau gofal plant, a buddion gwirfoddol megis talebau siopa a disgownt ar amrediad o nwyddau a gwasanaethau.
· Absenoldeb tadolaeth, mabwysiadu a mamolaeth gyda thâl.
· Prawf llygaid am ddim i weithwyr sy'n defnyddio sgrîn cyfrifiadur.
Rhwydweithiau
Y cyfle i ymuno â rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan weithwyr, sydd wedi’u sefydlu i roi cyngor a chefnogaeth ac er mwyn gallu mynegi barn gweithwyr o grwpiau lleiafrifol yn uniongyrchol i uwch reolwyr. Ar hyn o bryd, ceir rhwydweithiau ar gyfer gweithwyr o darddiad ethnig lleiafrifol, gweithwyr sydd ag anableddau, gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, gweithwyr sy’n ferched, a gweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.
Cod y Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1996, yn gosod gwerthoedd craidd y Gwasanaeth Sifil a safon yr ymddygiad a ddisgwylir gan bawb sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cynnal y gwerthoedd hyn.
· Uniondeb – gosod rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol.
· Gonestrwydd – bod yn onest ac yn ddidwyll.
· Gwrthrychedd - seilio eich cyngor a’ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trwyadl o’r dystiolaeth.
· Didueddrwydd – gweithredu yn unol â rhinweddau’r achos yn unig a gwasanaethu llywodraethau o wahanol bleidiau gwleidyddol yn gyfartal.
I weld Cod y Gwasanaeth Sifil, ewch i: http://www.civilservice.gov.uk/about/values
Pwy sy'n gymwys
Rhaid recriwtio staff a benodir yn barhaol drwy gystadleuaeth deg ac agored.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website