This job advert has expired
Cydlynydd prosiectau
Cydlynydd prosiectau
Overview:
Mae’r swydd hon yn galw am unigolyn hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Mae gweithio gyda phartneriaid, yn enwedig yn y maes dysgu Cymraeg, yn elfen greiddiol o’r gwaith.
Description:
Mae’r swydd hon yn galw am unigolyn hyblyg, brwdfrydig a hyderus sydd yn gallu meistroli nifer o elfennau amrywiol sydd ynghlwm â gwaith Mentrau Iaith Cymru. Mae gweithio gyda phartneriaid, yn enwedig yn y maes dysgu Cymraeg, yn elfen greiddiol o’r gwaith.
Bydd gofyn gallu teithio i amryw o leoliadau ledled Cymru yn ôl y galw.
Amdanom ni
Mae Mentrau Iaith Cymru (MIC) wedi bod yn gweithredu fel corff canolog i gefnogi gwaith y rhwydwaith o Fentrau Iaith lleol ers 1999 trwy amryw o weithgareddau. Ein prif nod yw darparu cyfleoedd i rwydweithio, roi llais i’r rhwydwaith, datblygu prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol sy’n caniatáu i’r rhwydwaith weithio ar lefel rhanbarthol a chenedlaethol, a chynnig cefnogaeth ac arweiniad i’r Mentrau Iaith ar faterion amrywiol, gan gynnwys polisi mewnol, staffio, ymchwil a chyfleoedd datblygu yn y maes cynllunio iaith.
Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac yn chwarae rôl bwysig o fewn y 3ydd sector.
Prif Bwrpas y Swydd
Gweithio fel rhan o dîm bychan sy'n cefnogi gwaith y Mentrau Iaith ledled Cymru. Cydlynu cefnogaeth i’r rhwydwaith o Fentrau Iaith a chydlynu prosiectau sy’n ychwanegu gwerth i waith y Mentrau wrth iddynt gryfhau’r Gymraeg yn y gymuned. Bydd y swydd yn canolbwyntio ar hwyluso ac ehangu ar y gwaith a wneir gan y rhwydwaith yn y maes ‘cynyddu hyder a defnydd siaradwyr newydd’.
Prif Ddyletswyddau a chyfrifoldebau
Cefnogi’r Mentrau iaith i ddatblygu a darparu cynlluniau lleol wedi eu targedau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
Cynnal perthynas gadarnhaol gyda Chanolfan dysgu Cenedlaethol Cymru a’u darparwyr lleol
Cynyddu cynhwysedd y Mentrau iaith i ddarparu gweithgareddau yn y maes cynyddu hyder a defnydd siaradwyr newydd
Cefnogi’r Mentrau i ddatblygu partneriaethau yn y maes
Rhannu arfer dda ar draws y rhwydwaith
Rhoi cefnogaeth hyrwyddo a marchnata i weithgareddau’r rhwydwaith
Cydlynu fframwaith werthuso cenedlaethol a chydlynu adroddiadau cenedlaethol
Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol
Dyletswyddau a chyfrifoldebau cyffredinol:
Cefnogi gwaith swyddogion eraill MIC i gyflawni gweithgareddau a phrosiectau amrywiol
Paratoi adroddiadau rheolaidd ar y gwaith a gyflawnwyd er mwyn adrodd i Fwrdd Cyfarwyddwyr MIC, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru
Mynychu digwyddiadau MIC
Mynychu cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd perthnasol
Ymgymryd ag unrhyw dasgau a gofynion eraill rhesymol
Sgiliau / Profiad hanfodol
Profiad o feithrin a chynnal partneriaethau a rhwydweithiau cydweithredol, ystyrlon a buddiol
Yn drefnus ac effeithiol, ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol o safon uchel
Y gallu i drefnu gwaith heb gyfarwyddyd uniongyrchol gan ddatblygu syniadau a chynlluniau newydd o dan arweiniad
Y gallu i gydweithio ag eraill ac ennyn diddordeb a brwdfrydedd
Sgiliau cyfrifiadurol da
Profiad o gydlynu gweithgareddau
Profiad o drefnu neu gydlynu cyfarfodydd
Yn meddu ar drwydded yrru lân a chyfredol a defnydd o drafnidiaeth eich hunan
Yn rhugl ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) - ar lafar ac ysgrifenedig
Dealltwriaeth o waith MIC, y Mentrau Iaith a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, ac ymrwymiad i hyrwyddo’r Gymraeg
Gweithio mewn modd proffesiynol ar bob achlysur gan arddel egwyddorion Nolan
Sgiliau / profiad dymunol
Profiad o weithio yn y maes cyfathrebu/ hyrwyddo
Profiad o gasglu a chyflwyno data
Profiad o ysgrifennu adroddiadau
Profiad a dealltwriaeth o waith y trydydd sector yng Nghymru
Dealltwriaeth o bolisi iaith a’r maes cynllunio iaith yng Nghymru
Profiad o faes gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol a’ r ddarpariaeth dysgu lleol
Dealltwriaeth neu brofiad yn y maes newid ymddygiad a/neu brosesau dysgu iaith.
Additional Information:
Click on the APPLY NOW link to apply for the job advert on our website
Additional job information can be found below
Use the documents below to apply for the job advert
Use the contact information above to contact us for more information
Downloads / Forms and useful documents:
Disgrifiad Swydd Cydlynydd Prosiectau
Ffurflen Gais
* Remember to mention the Lleol.cymru website when responding *
Cydlynydd prosiectau
Contact Cydlynydd prosiectau